|
Croeso i iechyd meddwl cymru!
Rheolir
y wefan hon gan Hafal, un o'r prif elusennau iechyd
meddwl sy'n darparu gwasanaethau ymhob rhan o Gymru.
Nod y wefan hon yw cynnig set o gysylltiadau defnyddiol
ynghyd â llyfrgell o ddeunyddiau gwybodaeth ar
gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl, clinigwyr,
unigolion sy'n byw gyda salwch meddwl, teuluoedd a gofalwyr.
Mae'r wefan yn canolbwyntio'n arbennig ar salwch meddwl
difrifol, ond gobeithiwn y bydd hefyd yn ddefnyddiol
i eraill.
Efallai y bydd pobl sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl
neu unigolion sydd â diddordeb ynddo yn awyddus
i ddefnyddio'n Tudalen Hafan ni fel tudalen agoriadol
iddynt hwythau yn Explorer. Ceir botymau torri'r daith
ar gyfer hyn ar y Dudalen Hafan, ynghyd â llwybrau
byrrach i Google,
un o'r peiriannau chwilio mwyaf cynhwysfawr ar y we.
Caiff y wefan ei noddi gan AstraZeneca
Cyfyngedig, sydd wedi darparu grant addysgol i ddatblygu'r
wefan. Nid oes gan Pfizer unrhyw ran yn y gwaith o reoli
na gwneud penderfyniadau golygyddol am y wefan.
Bydd hon yn wefan fyw a byddwn yn ei diweddaru'n gyson
gyda'r newyddion diweddaraf, adroddiadau a chyhoeddiadau
cyfredol a'ch sylwadau chithau.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Hafal,
trowch at ein gwefan gorfforaethol.
Os oes gennych unrhyw farnau am y wefan, rhowch wybod
i mi. Byddaf yn datblygu'r wefan yn unol â'ch
anghenion chi, felly ysgrifennwch ataf yn editor@mentalhealthwales.net
|