|
Mae nifer o bobl y gellir troi atynt am gymorth a chyngor
yng Nghymru. Yn y lle cyntaf, efallai y dylech gysylltu
â'ch Meddyg Teulu neu Weithiwr Cymdeithasol, neu'ch
ysbyty lleol. Gallwch gael manylion eich gwasanaethau
GIG lleol drwy www.wales.nhs.uk.
Gellir
cysylltu â'r Samariaid ar rif ffôn 08457
909090 ac yn www.samaritans.org.uk.
Mae
Llinell Gymorth Straen Gwledig Cymru ar gael ar 0800
0858 119.
Mae
gan Hafal Weithwyr Cefnogi Teuluoedd a Swyddogion Eirioli
a chyswllt Rhwydwaith "Dolen" yn ardaloedd
pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Anfonwch e-bost
at Hafal i gael eich manylion cysyltu lleol yn info@hafal.org.
Gweler
hefyd yr adran "Pwy yw Pwy" ym mar cynnwys
y wefan hon.
Mae
C.A.L..L. (Community Advice & Listening Line)
yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth
ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru,
a gellir cysylltu â nhw ar 0800 132 737
neu drwy'r wefan www.call.dial.pipex.com
I
gael cymorth a chyngor, cysylltwch â Galw Iechyd
Cymru ar 0845 4647 neu trowch at y wefan yn www.nhsdirect.nhs.uk
|