y wefan iechyd meddwl gynhwysfawr sy’n gwasanaethu Cymru
Iechyd Meddwl Cymru


Cyfnodolyn diweddaraf
Cyfnodolyn diweddaraf
Gwasanaethau Iechyd
Meddwl i Oedolion

Defnyddio’r Wefan hon
  Ble i fynd i gael cymorth
Gwybodaeth am y wefan hon
  Chwiliwch y wefan
 

Beth yw Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol?

  • Mae Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol (FfGC) yn anelu at osod safonau cenedlaethol a diffinio modelau gwasanaeth ar gyfer gwasanaeth neu gr?p gofal penodol.
  • Sefydlir rhaglenni i gefnogi gweithrediad, a sefydlir mesurwyr perfformiad er mwyn gallu asesu cynnydd o fewn graddfa amser y cytunir arni.
  • Datblygir pob FfGC gan gr?p cyfeirio arbenigol sy’n cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, rheolwyr gwasanaeth iechyd a budd-ddeiliaid eraill.
  • Cyhoeddwyd FfGC gwreiddiol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn 2002. Datblygwyd y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru yn dilyn cyhoeddi Dogfen Strategaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru. Mae’r safonau’n cyd-fynd â’r canllawiau gan NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol) a bydd yn cael ei gyflwyno drwy fecanweithiau llywodraethu clinigol a’i fonitro gan y Comisiwn Gwella Iechyd a’r Fframwaith Rheoli Perfformiad ar gyfer GIG Cymru.

Codi’r Safon: Y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru

Cyhoeddwyd “Codi’r Safon: Y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru” ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, Hydref 10, 2005. Roedd hwn yn disodli FfGC gwreiddiol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion, a gyhoeddwyd yn 2002.

Mae’r FfGC diwygiedig yn anelu at “osod safonau ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru, gwella’r safon a lleihau’r amrywiadau annerbyniol mewn darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd”.

Mae’r 8 Safon a’r 44 Cam Allweddol yn aros yr un fath yn y diwygiad i raddau helaeth, ond mae’r ddogfen gyfan wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu newidiadau yn y trefniadau comisiynu, rheoli perfformiad ac archwilio ers ei gyhoeddi gyntaf, ac ychwanegwyd manylion pellach i’r wybodaeth monitro. Yn ogystal â hynny, mae’r ddogfen yn adlewyrchu “Cynllun Oes: Creu Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r Radd Flaenaf i Gymru yn yr 21ain Ganrif”.

Cwmpas y FfGC diwygiedig

Mae’r FfGC hwn yn cwmpasu heriau iechyd cyhoeddus, hybu iechyd a chynhwysiad cymdeithasol, anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, mynediad i wasanaethau a darpariaeth asesiad a thriniaeth gynhwysfawr. Mae’n cysylltu â materion sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl i blant, gwasanaethau iechyd meddwl i bobl h?n, darpariaeth camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a phobl gyda phroblemau iechyd meddwl sydd yn y system cyfiawnder troseddol.

Er ei fod yn canolbwyntio ar oedolion o oed gweithio, fel arfer rhwng 18 a 65 oed, mae nifer o’r egwyddorion yr un mor berthnasol i bobl dros 65 oed. Bydd canllawiau mwy penodol yn ymwneud ag anghenion iechyd meddwl pobl dros 65 oed i’w cael yn y FfGC ar gyfer pobl h?n, fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2006.

Gosodir safonau ar gyfer wyth prif weithgaredd:
Cynhwysiad cymdeithasol, hybu iechyd a thaclo stigma Safon 1
Grymuso defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Safon 2
Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer patrwm arferol o fywyd dyddiol Safon 3
Cynnig gwasanaethau cyfartal a hygyrch Safon 4
Comisiynu gwasanaethau effeithiol, cynhwysfawr ac ymatebol Safon 5
Cyflwyno gwasanaethau effeithiol, cynhwysfawr ac ymatebol Safon 6
Asesiadau a llwybrau gofal effeithiol ar gyfer cleientiaid Safon 7
Sicrhau gweithlu gyda digon o staff, sgiliau a chefnogaeth Safon 8

I lawrlwytho copi o “Codi’r Safon” cliciwch yma.

Mae Hafal wedi cynhyrchu arweiniad byr, hawdd i’w ddefnyddio, i’r FfGC diwygiedig, sy’n gosod amserlen hawdd ei darllen o’r targedau perfformiad yn erbyn pob Cam Allweddol o’r Fframwaith. I lawrlwytho copi o amserlen FfGC Hafal, cliciwch yma.


Back to top of page  



© Iechyd Meddwl Cymru
www.iechydmeddwlcymru.net