image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

News and Announcements

Back to news list

“Llinell derfyn i’w gweld” ar gyfer GCD iechyd meddwl Jonathan Morgan

11 Dec 2009 (updated: 16 Dec 2009)

“Llinell derfyn i’w gweld” ar gyfer GCD iechyd meddwl Jonathan Morgan
Mae Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) iechyd meddwl Jonathan Morgan, a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru i fwynhau pwerau deddfu ei hun mewn perthynas ag asesiad, triniaeth ac eiriolaeth iechyd meddwl, wedi cymryd cam arall tuag at dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn dilyn dadl yn y Senedd a gynhaliwyd ddydd Mercher.


Tra’n dadlau’r mater, a dderbyniodd cefnogaeth drawsbleidiol, roedd cyfres o ACau wedi llongyfarch Mr Morgan ar y gwaith y mae wedi ei wneud ar y GCD tra hefyd yn cwyno pa mor hir y mae wedi cymryd i gyrraedd y camau terfynol (dechreuodd Mr Morgan y broses yn Hydref 2007).


Wrth agor y trafodion, disgrifiodd Mr Morgan y ddadl fel “digwyddiad hanesyddol” ond roedd yn cydnabod hefyd fod “yna rhai rhwystrau i’w goresgyn eto”. Wrth wneud sylw ar yr angen am fwy o bwerau deddfu yng Nghymru, dywedodd cyn Weinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “I mi, daeth y darn o dystiolaeth fwyaf cymhellgar dros yr angen dybryd i ddiwygio o’r defnyddiwr gwasanaeth o Hafal, Lee McCabe. Dyma’r hyn a ddywedodd yn ei dystiolaeth wrth y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yng Ngorffennaf: ‘O’r amser i mi gael fy nerbyn i’r ysbyty, ni chafodd fy nheulu na minnau unrhyw gefnogaeth wedi i mi gael fy rhyddhau o’r ysbyty ychydig wythnosau wedyn. Ni chafodd fy nheulu na minnau unrhyw wybodaeth am y diagnosis a dderbyniais, y feddyginiaeth yr oeddwn yn ei chymryd, dim byd o gwbl. O ganlyniad i hyn, cefais atglyfachiad rhai wythnosau ar ôl cael fy rhyddau a bu’n rhaid i mi fynd yn y pendraw i’r ward seiciatrig lle y bum i am chwe mis. Fe’m gorfodwyd i aros yn yr ysbyty ac mi wnes i ddod yn rhwystredig gyda fy nghyflwr. Yn fwy pwysig, arweiniodd hyn ataf yn yr hirdymor yn ceisio cyflawni hunanladdiad pedair gwaith. Bum yn ffodus iawn wedyn i gael NSC (Nyrs Seiciatrig Cymunedol) a lwyddodd yn y pendraw i’m cynorthwyo i a’m rhieni gyda gwybodaeth a chefnogaeth ar y gwasanaethau a oedd ar gael a’m cynorthwyo i ddysgu i ymdopi.”


Dywedodd Mr Morgan wrth yr Aelodau Cynulliad mai’r hyn a newidiodd i Lee oedd iddo gael NSC a fu’n gyfrifol am gynnal asesiad, ysgrifennu cynllun triniaeth a gofal o ansawdd a sicrhau bod modd darparu’r hyn a amlinellwyd. Dywedodd Mr Morgan: “Ni ddylai person fod yn lwcus i gael y gweithiwr proffesiynol cywir i’w gynorthwyo; dylai gael yr hawl hon drwy ddyletswydd i ddarparu asesiad ac eiriolaeth. O’r herwydd, ni fydd pobl wedyn angen lefelau uwch o ofal neu’n colli eu swyddi yn syml am nad oes yna ddyletswydd ar ein gwasanaethau iechyd meddwl i wneud  yr hyn y mae polisi yn datgan y dylent fod yn gwneud yn barod. Gallai’r GCD drafft fod yn drobwynt - nid i ddatganoli, ond ar gyfer y rhai hynny yng Nghymru, fel Lee, sydd yn haeddu gwasanaethau gwell sydd yn ymateb i’w hanghenion, ac sydd yn cynnig asesiad cynnar o’r anghenion hynny, gofal wedi’i bersonoli a mynediad at eiriolaeth.”


Disgrifiodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart y ddadl GCD fel “carreg filltir allweddol yn y broses o gymeradwyo’r Gorchymyn drafft” a dywedodd “ei bod yn deg dweud fod y llinell derfyn yn amlwg i’w

gweld.”

Ar ddiwedd y ddadl, pasiwyd y cynnig yn ddiwrthwynebiad. Bydd y Prif Weinidog nawr yn rhoi gwybod yn ffurfiol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod y Cynulliad wedi cymeradwyo’r GCD. Yn dilyn dadleuon yn Nhŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin, disgwylir Cydsyniad Brenhinol yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
Er mwyn darllen cofnod o'r ddadl dydd Mercher, ewch os gwelwch yn dda i:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=157038&ds=12/2009


News items for 2010. Select other:

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru