image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

News and Announcements

Back to news list

Hyfforddiant Oedolyn Priodol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd

17 Dec 2009 (updated: 19 Feb 2010)

Mae'r elusen iechyd meddwl Gymreig, Hafal, sydd yn cael ei harwain gan gleifion wedi cynnal diwrnod hyfforddi arloesol yng Nghaerdydd ar sut i ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc ac oedolion sydd yn agored i niwed meddyliol ac sydd yn cael eu dal yn y ddalfa gan yr heddlu.

Roedd yr elusen, sydd wedi lansio "Gwasanaeth Cyswllt" cyfiawnder troseddol newydd eleni sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr a Sefydliad Lloyds TSB, wedi derbyn cefnogaeth gyda'r digwyddiad odd wrth elusen Gogledd Iwerddon, MindWise. Roedd nifer o fyfyrwyr y gyfraith ac athrawon prifysgol o ledled y DU wedi mynychu'r hyfforddiant a gynhaliwyd yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd.
Pan fo person ifanc ag afiechyd meddwl o dan ofal yr heddlu, rôl yr Oedolyn Priodol yw sicrhau bod yr unigolyn hwnnw yn cael ei drin yn briodol a'i fod yn deall yn llwyr y broses o gael ei gadw yn y ddalfa (nid yw Oedolion Priodol yno i gynnig unrhyw fath o gynrychiolaeth neu gyngor cyfreithiol). Yn ystod y diwrnod hyfforddi, a arweiniwyd gan Stanley Booth o MindWise, rhoddwyd gwybod i'r sawl a oedd yn cymryd rhan am amcanion rôl yr Oedolyn Priodol a rhoddwyd astudiaethau achos iddynt i drafod a'r cyfle hefyd i gymryd rhan mewn ymarferion chwarae rôl.

Dywedodd Prif Swyddog Cyfiawnder Troseddol Hafal, Penny Cram: "Roedd yr hyfforddiant wedi rhoi cyfle i'n tîm ni i weld pa mor bwysig yw rôl Oedolyn Priodol wrth sicrhau fod person sy'n agored i niwed yn derbyn cefnogaeth wrth fynd drwy'r hyn sydd yn medru bod yn amser anodd a chymhleth.

"Mae'r hyfforddiant yn mynd i'n cynorthwyo ni i sicrhau fod oedolion sy'n agored i niwed ac sydd ag afiechyd meddwl difrifol yn derbyn y gefnogaeth briodol gan staff â phrofiad iechyd meddwl pan yn cael eu dal yn y ddalfa gan yr heddlu."

 


News items for 2010. Select other:

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru