image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

News and Announcements

Back to news list

Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro

21 Jul 2010 (updated: 21 Jul 2010)

Cytunodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart AC, i gyhoeddi'r Canllaw DRhO dros dro ar Orffennaf 14eg. Fe'i cyhoeddwyd ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn eu cynghori ar sut y dylid bwrw ymlaen gyda chynllunio gwasanaethau o dan y DRhO.

Natur ‘dros dro' sydd i'r canllaw oherwydd er bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dweud ei fod nawr yn amserol ac yn briodol i ddatblygu canllaw newydd, mae'n rhaid iddynt i ystyried hefyd y cynigion deddfwriaethol newydd sy'n ymwneud â'r DRhO sydd o dan ystyriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru).

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl cyhoeddi'r canllaw terfynol yn gynnar ym 2011 gan y bydd y Mesur Iechyd Meddwl wedi'i lunio erbyn hynny.

Y cam cyntaf yn y broses hon yw'r pum digwyddiad canlynol a fydd yn gofyn am farn y sawl sy'n mynychu ar y canllaw newydd;

• 17 Awst (10am i 3.30pm) - Swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru
ECM2, Port Talbot
• 19 Awst (10am i 3.30pm) - Swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru Aberystwyth

• 23 Awst (10am i 3.30pm) - Swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru
Caerdydd
• 25 Awst (10am i 3.30pm) - Swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru,
Cyffordd Llandudno
• 26 Awst (10am i 3.30pm) - Swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru
Merthyr Tudful

Bydd pob digwyddiad yn cychwyn gyda throsolwg o'r canllaw cyn troi i mewn i weithdai er mwyn trafod y canllaw mewn mwy o fanylder. Bydd lluniaeth, gan gynnwys cinio ysgafn, yn cael ei ddarparu.

Er bod yn bosib mynychu'r digwyddiadau yma'n rhad ac am ddim, mae'r nifer o lefydd sydd ar gael wedi eu cyfyngu; os hoffech gadw eich lle, cysylltwch os gwelwch yn dda â joanna.north@wales.gsi.gov.uk . Fel arall, mae'n bosib i chi ffonio naill ai Joanna North (Ffôn 02920 801480) neu Chris Newbrook (Ffôn: 029 20 825988).

 

 

 


News items for 2010. Select other:

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru