image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

News and Announcements

Back to news list

Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru

29 Jul 2010 (updated: 29 Jul 2010)

Mae stori yn y Western Mail heddiw yn datgelu fod o leiaf 643 o gleifion yng Nghymru wedi derbyn therapi Electrogynhyrfol dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Mae'r papur yn datgan fod cyfres o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn cadarnhau fod yr arfer dal yn gyffredin yn ysbytai Cymru.

Mae'r driniaeth electrogynhyrfol hon yn cael ei defnyddio ar bobl sydd yn dioddef iselder, mania neu gatatonia difrifol. Mae hefyd wedi profi'n effeithiol er mwyn trin iselder ôl-enedigol.

Fodd bynnag, mae yna bryder yn y proffesiwn meddygol ynghylch ei effeithiau hirdymor, yn enwedig colli'r cof. Mae rhai cleifion wedi disgrifio teimlo bod eu personoliaethau wedi newid neu eu bod wedi colli sgiliau.
Er mwyn darllen stori'r Western Mail yn llawn, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2010/07/28/hundreds-undergo-electric-current-therapy-in-wales-91466-26944493/

Astudiaeth o gost gymdeithasol sgitsoffrenia yn Lloegr ar gael

Mae astudiaeth gan y London School of Economics, sydd yn anelu i ddarparu gwybodaeth am gost sgitsoffrenia o safbwynt ei feichiau cyllidol a chymdeithasol, nawr ar gael.

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn amcangyfrif fod cost gymdeithasol sgitsoffrenia yn Lloegr ym 2004/05 yn gyfanswm o £6.7 biliwn.

Mae'r costau sydd wedi eu cynnwys yn yr astudiaeth yn ymwneud â: gofal iechyd a chymdeithasol, gofal anffurfiol, gwariant preifat, cynhyrchiant a gollir, marwolaeth gynamserol, gwasanaethau cyfiawnder troseddol a gwariant cyhoeddus arall - er enghraifft y system diogelwch cymdeithasol.

Er mwyn edrych ar y costau unigol a mwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/17417045

Astudiaeth yn awgrymu fod cyffuriau gwrthseicotig o bosib yn medru achosi niwed i'r ymennydd

Mae erthygl yn y Cambridge Journal of Psychological Medicine wedi awgrymu fod cyffuriau gwrthseicotig o bosib yn medru achosi niwed i'r ymennydd

Mae'r erthygl, sydd yn cyfeirio at astudiaeth a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan University College London a'n dwyn y teitl ‘A systematic review of the effects of antipsychotic drugs on brain volume', wedi dod i'r casgliad fod "Ychydig o dystiolaeth yn awgrymu fod cyffuriau gwrthseicotig yn lleihau crebwyll yr ymennydd ac yn cynyddu maint y cyfaint neu'r hylif fentriglaidd."
Am fwy o wybodaeth ar yr astudiaeth, ewch os gwelwch yn dda i: http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?fromPage=online&aid=7096488

 


News items for 2010. Select other:

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru