image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Mesur Iechyd Meddwl

Ar Fawrth 23, 2006, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n rhoi’r gorau i’w gynlluniau i greu Mesur Iechyd Meddwl newydd o blaid gwneud newidiadau i Ddeddf 1983, a hynny o ganlyniad i bryderon am hyd a chymhlethdod y Mesur newydd a’r pwysau ar amser y Senedd.

Cyhoeddwyd y Mesur Diwygio Iechyd Meddwl ar Dachwedd 17, 2006, ac mae bellach yn mynd drwy ei gamau yn y Senedd.

I ddarllen ein bwletinau am y mesur iechyd meddwl, cliciwch y cysylltau isod:

Bwletin 1

Am ragor o wybodaeth am ddatblygiad y Mesur drwy’r Senedd, cliciwch yma


Mesur Iechyd Meddwl Drafft 2004: Y Stori hyd Yma

Cyswllt i:

Mesur Drafft 2004

Adroddiad y Cydbwyllgor

Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Cydbwyllgor

Cysylltiadau

Mesur Drafft 2004

Roedd Mesur Drafft 2004 yn olynu Drafft blaenorol a gyhoeddwyd yn ystod 2002 ac a feirniadwyd yn hallt. Gellir crynhoi’r newidiadau pwysicaf, a’r prif feirniadaethau gan nifer o sefydliadau am Ddrafft 2004, fel a ganlyn:

Newidiadau pwysicaf i Ddrafft 2002:

  • Diffiniad o ‘anhwylder meddwl’ yn cael ei nodi’n fwy penodol
  • Amodau ar gyfer gorfodaeth yn cael eu nodi’n fwy penodol
  • Diffiniad cliriach o gleifion sy’n gymwys i gael asesiad cychwynnol yn y gymuned
  • Cyfyngu ar bwerau tribiwnlys, gyda phwyslais ar gleifion a allai wneud niwed i eraill
  • Cael gwared ar orfodaeth mewn carchardai
  • Cleifion dros 16 oed yn cael yr hawl i wrthod ECT
  • ECT i’w roi i gleifion dan 16 oed dim ond pan ganiateir hynny gan y Tribiwnlys neu’r Llys
  • Y Comisiwn Gofal Iechyd i gymryd agwedd fwy cadarnhaol ac ymchwiliol
  • Cynyddu dedfryd leiaf posibl ar gyfer cam-drin neu esgeuluso cleifion i 5 mlynedd
  • Nid yw’r Mesur bellach yn ymyrryd ar sefyllfa cyfraith gwlad rhieni
  • Diffiniad ehangach o ofalwr yn cael ei fabwysiadu.

Prif feirniadaethau am Ddrafft 2004:

  • Nid yw’n cyd-fynd yn dda â pholisi a gwasanaethau Cymru
  • Hawliau i driniaeth gynnar heb eu sefydlu
  • Diffiniad o anhwylder meddwl yn dal i fod yn rhy eang
  • Bydd grwpiau newydd yn cael eu gosod yn ddiangen dan gwmpas y ddeddfwriaeth gorfodi
  • Risg o adnoddau’n cael eu tynnu o wasanaethau – gwelir hyn fel problem fawr yng Nghymru
  • Gallai’r rôl asesu risg a roddir i seiciatryddion eu harwain i gyfyngu/caethiwo heb fod angen
  • Hawliau gofalwyr yn dal i fod yn annigonol ac yn amhriodol
  • Gallai cyflwyno pwerau gorfodi yn y gymuned gynyddu’r nifer o bobl sy’n cael eu gosod dan orfodaeth
  • Gallai defnydd cynyddol o orfodaeth atal pobl rhag ceisio cael triniaeth
  • Yn dilyn rhyddhad o ysbyty, dim ond am chwe wythnos y bydd gan glaf hawl i wasanaethau gofal dilynol am ddim
  • Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) i gymryd lle Gweithwyr Cymdeithasol Cymeradwy (ASW) 
     

Adroddiad y Cydbwyllgor ar y Mesur Iechyd Meddwl Drafft

Penodwyd Cydbwyllgor Seneddol i archwilio’r Mesur Iechyd Meddwl Drafft 2004 ar ôl ei gyhoeddi. Ym mis Mawrth 2005, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, gyda’r prif ganfyddiadau canlynol:

  • dylai’r Mesur fynd yn ei flaen gyda newidiadau sylweddol yn unig
  • mae gormod o bwyslais yn cael ei roi ar warchod y cyhoedd rhag lleiafswm bychan o bobl gydag afiechyd meddwl
  • dylid gosod egwyddorion sylfaenol allan ar ddechrau’r Mesur
  • dylai’r Mesur fynd yn ei flaen – ond gyda newidiadau sylweddol yn unig
  • mae gormod o bwyslais yn cael ei roi ar warchod y cyhoedd rhag lleiafrif bychan o bobl gydag afiechyd meddwl
  • mae’n bosibl y gallai’r pwerau a roddir yn y Drafft cyfredol gael eu defnyddio fel rhyw fath o GYG (ASBO) iechyd meddwl – gan orfodi triniaeth ar bobl allai fod yn ‘niwsans’ yn unig
  • dim ond pan na fydd yna’r un dewis arall, a phan fydd budd therapiwtig iddo, y dylid defnyddio triniaeth orfodol
  • dylid delio â phobl na all elwa o driniaeth mewn deddfwriaeth ar wahân (er enghraifft, pobl gydag ‘anhwylder personoliaeth’ na ellir ei drin)
  • dylid cyfyngu fwy ar driniaeth yn y gymuned nag o dan y cynigion cyfredol
  • dylid bod hawliau cilyddol i driniaeth, gan gynnwys yr hawl i asesiad
  • dylai’r gyfraith chwarae rhan mewn gwella gwasanaethau a mynd i’r afael â stigma
  • dylid nodi egwyddorion sylfaenol ar ddechrau’r Mesur
     

Canfyddiadau penodol i Gymru

  • mae gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn llawer llai datblygedig nag yn Lloegr
  • bydd ardaloedd o Gymru sy’n denau eu poblogaeth yn “cymhlethu gweithrediad” Deddf, yn yr un modd ag y bydd yr anghenraid am wasanaeth dwyieithog
  • rhaid i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fod o leiaf yr un mor dda ag yn Lloegr ar hyn o bryd cyn y gellir gweithredu darpariaethau’r Drafft – a dylai adnoddau fod ar gael i gyflawni hyn
  • dylai gwasanaethau iechyd meddwl fod ar gael yng Nghymraeg a Saesneg. 
     

Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Cydbwyllgor Seneddol

Ym mis Gorffennaf 2005, cyhoeddodd y Llywodraeth ei ymateb i Adroddiad y Cydbwyllgor. Er bod nifer sylweddol o argymhellion y Pwyllgor wedi cael eu hystyried yn llawn neu’n rhannol, ni dderbyniwyd argymhellion allweddol. Yma, fe edrychwn ar rai o’r prif ymatebion i argymhellion y Pwyllgor:

Darpariaeth gwasanaeth

Roedd adroddiad y Pwyllgor yn dweud y dylai’r ddeddfwriaeth ymwneud â gwella gwasanaethau.

Roedd y Llywodraeth yn anghytuno â hyn, gan nodi nad yw’r Mesur yn ymwneud â darpariaeth gwasanaeth, ond â’r prosesau cyfreithiol ar gyfer dod â phobl dan orfodaeth.

Hawliau cleifion

Dywedodd y Pwyllgor wrth y Llywodraeth bod y Mesur yn rhoi gormod o bwyslais ar ddiogelwch cyhoeddus a dim digon ar hawliau cleifion.

Mae’r Llywodraeth wedi anghytuno’n gryf, gan feirniadu’r Pwyllgor am beidio â chymryd digon o dystiolaeth gan y rheiny sy’n gwarchod y cyhoedd.

Cwmpas

Nododd y Pwyllgor, er eu bod yn meddwl y dylai’r Llywodraeth gadw’r diffiniad o anhwylder meddwl a gynhwysir yn y drafft presennol, eu bod yn credu y dylid cyfyngu’r cwmpas fel na ellir defnyddio’r ddeddfwriaeth yn amhriodol fel modd ar gyfer rheolaeth gymdeithasol.

Cytunodd y Llywodraeth bod angen eithriad yn y Mesur yn achos camddefnyddio sylweddau, gan y bydd hyn yn sicrhau nad yw’r Mesur yn cwmpasu triniaeth orfodol ar gyfer pobl sydd ond yn dioddef anhwylder meddyliol dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.

Fodd bynnag, nid oedd y Llywodraeth yn credu bod eithriad ar sail tuedd rywiol ac amod ar wahân ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu ac anhwylderau cyfathrebu yn angenrheidiol.

Buddiannau therapiwtig

Argymhelliad y Pwyllgor oedd y dylai fod yna fudd therapiwtig i unrhyw driniaeth orfodol, ac y dylid delio ag unrhyw un sydd ag anhwylderau meddyliol difrifol na all elwa o driniaeth dan ddeddfwriaeth ar wahân.

Nid oedd y Llywodraeth yn cytuno bod angen deddfwriaeth ar wahân yn ychwanegol i gyfraith droseddol, ac nid oedd yn cytuno y dylid cyfyngu gorfodaeth i gleifion y gellir gwella eu cyflwr.

Gorchmynion Triniaeth Gymunedol

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylid cyfyngu’r defnydd o driniaeth amhreswyl dan orfodaeth i grŵp o gleifion sydd wedi’i ddiffinio’n glir ac y gellir ei adnabod yn glinigol, fel cleifion sy’n cael ail byliau’n aml.

Roedd y Llywodraeth yn cytuno bod angen diffinio’n glir yn y ddeddfwriaeth hon y grwpiau hynny o gleifion sy’n gychwynnol gymwys i gael eu hasesu a’u trin yn y gymuned. Fodd bynnag, nid oeddynt yn cytuno y dylai fod yna gyfyngiad ar pa gleifion ddylai fod yn amhreswyl, gan y byddai hyn yn gwahaniaethu yn erbyn cleifion preswyl y mae eu cyflwr wedi gwella i’r pwynt lle nad ydynt angen cael eu cadw fel cleifion preswyl, er eu bod yn dal i fod angen triniaeth.

 Hawliau cilyddol

 Roedd y Pwyllgor yn argymell bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth yr hawl i ofyn am asesiad o’u hangen am ofal iechyd meddwl fel claf preswyl neu amrheswyl, ac y dylai’r awdurdodau gyfiawnhau’n ysgrifenedig unrhyw benderfyniad i wrthod asesiad gwirfoddol o’r fath.

Nododd y Llywodraeth na fyddai’n cytuno â gweithredu gofynion penodol i gynnal asesiadau o fewn y Mesur, gan mai cyfrifoldeb y GIG yw sicrhau ansawdd a phrydlondeb gwasanaethau. Tynnwyd sylw at y ffaith bod Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru yn cwmpasu’r angen i unigolion gael asesiad o’u hangen a derbyn triniaeth a chefnogaeth briodol.

Person enwebedig

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai’r person enwebedig gael yr un hawliau a phwerau cyffredinol a roddir ar hyn o bryd i’r perthynas agosaf dan Ddeddf 1983.

Nid oedd y Llywodraeth yn cytuno â hyn, gan nodi fod y dulliau diogelu yn y Mesur wedi’u creu’n wahanol i Ddeddf 1983, felly nad oes angen i’r person enwebedig gael yr un hawliau â’r perthynas agosaf.

 Gwasanaethau Cymru

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yn rhaid i safon gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fod o leiaf yr un mor dda â’r gwasanaethau yn Lloegr ar hyn o bryd cyn y gellir gweithredu darpariaethau’r Mesur drafft. Dylid dyrannu adnoddau er mwyn galluogi’r gwasanaeth i wella i safon Lloegr.

Ymatebodd y Llywodraeth drwy nodi mai cyfrifoldeb y Cynulliad Cenedlaethol yw dyrannu adnoddau yng Nghymru, a bod Llywodraeth y Cynulliad wedi buddsoddi mewn gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn ogystal â gwneud iechyd meddwl yn un o’r blaenoriaethau iechyd. Ni ddywedodd fod yn rhaid i safon gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fod o leiaf yr un mor dda â’r gwasanaethau yn Lloegr ar hyn o bryd cyn y gellir gweithredu darpariaethau’r Mesur drafft.

 Beth nesaf?

Cyhoeddwyd cynlluniau yn Araith y Frenhines i gyflwyno’r Mesur Iechyd Meddwl i’r Senedd yn y sesiwn nesaf (h.y. cyn diwedd 2006). Mae’r Llywodraeth nawr yn ailddrafftio’r Mesur i gynnwys y newidiadau sydd i gael eu gwneud ar ôl ystyried adroddiad y Pwyllgor.

Cysylltiadau Defnyddiol

Ymgynghoriad yr Adran Iechyd ar y Mesur Iechyd Meddwl Drafft

Mesur Drafft 2004

Adroddiad y Cydbwyllgor Seneddol ar y Mesur Iechyd Meddwl Drafft 2004

Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Cydbwyllgor Seneddol

Fersiwn Hawdd ei Darllen o ymateb y Llywodraeth

Gwefan y Gynghrair Iechyd Meddwl (mae’r Gynghrair yn glymblaid o 60 sefydliad sy’n ymgyrchu am Fesur Iechyd Meddwl gwell).

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru