image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Dull Rhaglen Gofal

Yr Agwedd Rhaglen Gofal

Mae’r Agwedd Rhaglen Gofal (ARhG) yn ddull o adnabod anghenion gofal pobl gydag afiechyd meddwl. Mae’n cynnig ffordd drefnus o:

  • Asesu holl anghenion unigolyn os oes ganddynt afiechyd meddwl, a;
  • Datblygu un cynllun gofal fydd yn sicrhau bod yr anghenion hynny’n cael eu bodloni.

Ar gyfer pwy mae’r ARhG?

Mae’r ARhG ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Sut mae’r ARhG yn cychwyn?

Fel arfer, bydd Meddygon Teulu yn cyfeirio pobl gyda phroblemau iechyd meddwl at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, er mwyn cael asesiad ARhG. Bydd y gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn penderfynu os oes angen asesu’r unigolyn neu ei gyfeirio’n ôl at eu Meddyg Teulu gydag argymhellion.

Beth yw prif elfennau’r ARhG?

Prif elfennau’r ARhG yw:

  1. Asesiad o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.
  2. Cynllun gofal ysgrifenedig, a gytunir gyda phawb sy’n rhan o gyflwyno gofal i unigolyn, gan gynnwys y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, y Meddyg Teulu a’r gofalwr.
  3. Enwebu Cydlynydd Gofal sy’n gweithredu fel prif bwynt cyswllt, gan oruchwylio’r gwaith o gyflwyno gofal i unigolyn.
  4. Adolygiadau parhaus a rheolaidd o gynllun gofal unigolyn a’i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Hafal wedi cynhyrchu arweiniad i ddefnyddwyr ARhG sy’n cynnig awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cael y gorau o’r broses. Am gopi am ddim, cysylltwch â Hafal ar 01792 816 600, neu lawlwythwch o’r wefan http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/pdf/CPA/CPA_Welsh.pdf

Mae Cymdeithas yr Agwedd Rhaglen Gofal hefyd yn cynnig gwybodaeth a chyngor defnyddiol am yr ARhG. I gael gwybod mwy, ewch i www.cpaa.co.uk

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru