Cyfrinachedd
O dan gyfraith gwlad, ni ellir datgelu gwybodaeth bersonol heb gael caniatâd y person dan sylw. Os nad yw'r person yn abl i gydsynio, gall ei feddyg ddatgelu gwybodaeth os cred fod hynny er lles yr unigolyn.
Mae'n bosib y bydd rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol ystyried torri amodau cyfrinachedd o dan rai amgylchiadau megis, er enghraifft, pe bai peidio â datgelu 'er lles y cyhoedd' yn arwain at ddigwyddiad treisgar.
Mae cyrff proffesiynol megis Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer eu haelodau ar fater cyfrinachedd.
Dylai staff proffesiynol ofalu peidio â dylanwadu ar benderfyniad unigolyn ar ddatgelu gwybodaeth. Mae'n bosib y bydd rhaid trosglwyddo gwybodaeth rhwng asiantaethau ac unigolion yn y broses cynllunio gofal, ond dylid gwneud hynny ar y sail bod 'angen cael gwybod', a dylai'r unigolion dan sylw fod yn rhan o unrhyw drefniant o'r fath ar bob achlysur. Mae gan ofalwyr gyfraniad pwysig i'w wneud i'r gwaith o gynllunio gofal, a dylent hwythau fod yn rhan o unrhyw drefniant felly.
Mae gan unigolyn yr hawl i atal gwybodaeth rhag cael ei rhoi i'w berthynas agosaf o dan Adran 132 y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Dywed Siartr y Cleifion 'os cytunwch, gallwch ddisgwyl y bydd eich perthnasau a'ch ffrindiau yn cael gwybod y diweddaraf am eich triniaeth'.
Pan fydd unigolyn yn dymuno i'w deulu a/neu ei ofalwyr beidio â chael gwybod, rhaid parchu hyn. Mae'r sefyllfa'n wahanol os yw'r gyfraith yn mynnu bod rhaid datgelu'r wybodaeth.
Mae gan Weithwyr Cymdeithasol Cymeradwy ddyletswydd statudol i roi gwybod i'r perthynas agosaf os yw'r posibilrwydd o gadw'r unigolyn trwy orfodaeth yn cael ei ystyried, neu os yw hynny wedi digwydd yn barod.
Gwybodaeth Bellach: Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu: Royal College of General Practitioners
|