image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Gwasanaethau Iechyd

Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru

Anela'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol at osod safonau ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru a sefydlu'r canllawiau ymarferol a fydd yn golygu y gellir gweithredu'r Strategaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion mewn modd cyson a chynhwysfawr.

Gosodir safonau ar gyfer 8 gweithgarwch Allweddol :-

Safon 1 Hybu cynhwysiad cymdeithasol 

Safon 2 Galluogi a chefnogi defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr

Safon 3 Hybu cyfleoedd ar gyfer byw bywyd beunyddiol yn ôl patrwm cyson

Safon 4 Comisiynu gwasanaethau teg a hygyrch

Safon 5 & 6 Darparu gwasanaethau ymatebol a chynhwysfawr

Safon 7 Cynnig gwasanaethau asesu cleientiaid a llwybrau gofal effeithiol

Safon 8 Trefnu gweithlu digonol a medrus sy'n cael ei gynnal
 

Er mwyn gweithredu'r 8 safon, mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn darparu 44 Gweithred Allweddol sy'n rhestru'r camau angenrheidiol, yr amserlenni a'r corff/cyrff cyfrifol.

Y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu'r Safonau yw trwy wneud gwell defnydd o'r adnoddau sydd ar gael a thrwy weithredu arfer gorau.

I'r perwyl hwnnw mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi:-

  • Gwneud iechyd meddwl yn un o'r 3 blaenoriaeth iechyd uchaf yng Nghymru
  • Sefydlu tîm gweithredu i baratoi Cynllun Gweithredu i sicrhau bod y Strategaeth a'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn cael eu gweithredu

18 Mar 2010
Adroddiad yn galw am fwy o fuddsoddiad i hyrwyddo iechyd meddwl.. tra bo cynlluniau i ddisodli hen wallgofdy â datblygiad newydd wedi eu rhoi o’r neilltu....Read more...

25 Feb 2010
“Afiechyd meddwl yw’r mater gofal iechyd pwysicaf i droseddwyr ifanc”...Read more...

24 Feb 2010
Dywed adroddiad fod gofal arbenigol i garcharorion ag afiechyd meddwl difrifol o bosib yn medru arbed £1 biliwn y flwyddyn...Read more...

19 Feb 2010
Cyfnodolyn Iechyd Meddwl Cymru nawr wedi'i gyhoeddi...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru