Derbyn Cleifion i'r Ysbyty a'u Rhyddhau
Meddygon Teulu neu Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT) sy'n trin mwyafrif helaeth o bobl sy'n cael triniaeth feddygol am salwch meddwl yn y gymuned. Ar y cyfan caiff unigolion eu derbyn i'r ysbyty dim ond os ydynt yn arbennig o sâl neu mewn argyfwng.
Cyfeirir cleifion gan y Meddyg Teulu neu'r CMHT neu ar ôl asesiad ar gyfer derbyn claf mewn argyfwng.
Gellir derbyn claf i ysbyty trwy drefniant:-
Anffurfiol - mae'r unigolyn wedi cytuno i gael ei dderbyn i'r ysbyty ac mae'n glaf gwirfoddol, sy'n golygu y gall adael yr ysbyty neu ryddhau ei hun heb orfod cael cytundeb staff yr ysbyty (ar yr amod nad oes gorchymyn wedi'i wneud ar ei gyfer tra bydd yn yr ysbyty).
Ffurfiol - Mae'r unigolyn yn destun gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, sy'n ei orfodi i fynd i'r ysbyty ac i aros yno (hyd yn oed os nad yw eisiau gwneud) am gyfnodau penodol o amser i gael ei hasesu neu ei drin. I gael rhagor o wybodaeth trowch at y dudalen ar y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Ar y Ward Mae gan rai ysbytai wardiau i un rhyw; mewn eraill nid oes wardiau ar wahân ar gyfer dynion a menywod, er y bydd y cyfleusterau cysgu, tai bach ac ymolchi bob amser ar wahân ar gyfer dynion a menywod. Gall claf gwirfoddol holi am y pethau hyn ymlaen llaw; os yw'r claf yn cael ei dderbyn mewn argyfwng gall hynny fod yn anoddach.
Gall cyrraedd y ward fod yn brofiad anodd ac aneglur iawn. Bydd staff y ward yn deall hyn ac fe wnânt eu gorau i helpu'r person i ymgartrefu, er enghraifft, trwy fynd ag ef o gwmpas y ward. Mae staff nyrsio a staff meddygol yn gwisgo dillad bob dydd a gellir eu hadnabod trwy eu bathodyn enw.
Yn fuan ar ôl cael ei dderbyn, bydd y person yn cael ei holi gan aelod o'r staff nyrsio a chan feddyg y ward; gofynnir i'r person am ei gefndir ac am hanes llawn ei broblemau presennol; gofynnir am yr wybodaeth hon i wneud yn siwr fod y cymorth a'r gynhaliaeth a gynigir yn yr ysbyty yn addas. Bydd y staff hefyd yn gofyn i'r person a yw wedi dod ag unrhyw feddyginiaeth gydag ef/hi.
Caiff gweithiwr allweddol (a elwir weithiau'n nyrs sylfaenol neu nyrs a enwir) ei chyflwyno i bob claf newydd ymhen ychydig ddyddiau ar ôl ei dderbyn i'r ysbyty. Mae rôl y gweithiwr allweddol yn cynnwys pethau fel cydlynu'r gofal nyrsio a darparu gwybodaeth berthnasol, er enghraifft fel hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Gweithgarwch dyddiol Bydd y gweithgarwch dyddiol ar y ward yn dibynnu ar y math o ward a beth yw anghenion y cleifion unigol ar y ward.
Meddyginiaeth - weithiau caiff ei roi ar adegau penodol, fel arfer adeg prydau bwyd a chyn mynd i gysgu.
Prydau bwyd - mae'n bosib y bydd dewis o brif brydau, a darperir ar gyfer deietau arbennig.
Diodydd - Fel arfer mae cegin ar bob ward lle gellir gwneud diodydd neu dost rhwng prydau.
Ymweld - Ar y rhan fwyaf o'r wardiau mae'r trefniadau ymweld yn weddol hyblyg, ac ar rai wardiau gellir ymweld ar unrhyw adeg. Mae'n bosib y bydd y trefniadau ymweld ar gyfer rhai cleifion yn cael eu cyfyngu os yw'r tîm trin yn teimlo y byddai'n eu helpu i wella'n gyflymach.
Rownd y Ward - Cynhelir rownd y ward tuag unwaith yr wythnos, a dyma pryd y bydd pawb sydd ynghlwm wrth driniaeth y claf (yn ogystal â'r claf ei hun) yn cyfarfod i drafod y cynllun trin. Yn anffurfiol mae'n bosib y caiff gofalwyr hefyd wahoddiad i fod yn bresennol.
Ysmygu - Mae ysmygu'n cael ei ganiatáu mewn mannau penodedig yn unig ar bob ward.
Mae Derbyn i'r Ysbyty o dan Adran 2 Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn caniatau derbyn person i'r ysbyty ar gyfer asesiad a/neu driniaeth, ac nid yw'n golygu gorfod mynd i lys. Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi'n glir iawn y gellir rhoi triniaeth iddo, gyda'i gydsyniad, os caiff ei dderbyn i'w asesu.
Gellir gwneud cais i dderbyn person ar gyfer asesiad gan berthynas agosaf y person neu gan Weithiwr Cymdeithasol Cymeradwy gyda chefnogaeth dau feddyg (mae'n rhaid i un ohonynt fod wedi ei gymeradwyo o dan y Ddeddf, dylai un ohonynt fod yn adnabod y person).
Rhaid i'r sawl sy'n gwneud y cais am asesiad fod wedi gweld y person yn ystod y pythefnos diwethaf, rhaid i'r meddygon fod wedi gweld yr unigolyn o fewn wythnos i'w gilydd.
Mae'n rhaid i'r meddygon gadarnhau:
- Fod y person yn dioddef anhwylder meddyliol o natur neu i raddau sy'n cyfiawnhau ei dderbyn i'r ysbyty i gael ei asesu, ac yna i gael triniaeth feddygol; ac
- Y dylid cadw'r person er lles ei iechyd a'i ddiogelwch ei hun neu gyda'r bwriad o ddiogelu eraill.
Gellir cadw pobl o dan yr Adran hon am hyd at 28 diwrnod, ac ni ellir ymestyn y cyfnod.
Mae Adran 3 Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn caniatáu derbyn person i'r ysbyty ar gyfer cael triniaeth.
Gellir gwneud y cais o dan yr un amodau ag ar gyfer Adran 2, a'r meddygon yn cadarnhau:-
- Ei fod yn dioddef salwch meddwl, anhwylder meddwl difrifol neu anhwylder seicopathig, a bod yr anhwylder meddwl o natur neu raddau sy'n ei gwneud yn briodol cael triniaeth feddygol mewn ysbyty; ac
- Ar gyfer anhwylder seicopathig neu anhwylder meddwl, fod y cyfryw driniaeth yn debygol o liniaru ei gyflwr neu ei rwystro rhag gwaethygu; a'i
- Bod yn angenrheidiol er mwyn lles neu ddiogelwch yr unigolyn neu er diogelu eraill y dylai gael y driniaeth honno ac na ellir ei darparu oni chaiff ei gadw mewn ysbyty.
Cedwir pobl o dan Adran 3 Deddf Iechyd Meddwl 1983 am chwe mis yn y lle cyntaf, cyfnod y gellir ei adnewyddu am chwe mis arall ac yna am gyfnodau o flwyddyn ar y tro.
Mae Adrannau 4 a 5 Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn caniatáu cadw pobl mewn ysbyty o dan amgylchiadau argyfwng.
Mae Adran 4 yn caniatáu i berson gael ei dderbyn i ysbyty heb aros am gymeradwyaeth meddyg adran 12 a lle byddai'r oedi yn annymunol.
Gellir gwneud cais i dderbyn person o dan Adran 4 gan Weithiwr Cymdeithasol Cymeradwy neu'r perthynas agosaf gyda chefnogaeth meddyg cymeradwy. Mae'n rhaid i'r person sy'n gwneud y cais a'r meddyg fod wedi gweld y person yn ystod y 24 awr blaenorol, ond gellir llofnodi'r cais argyfwng cyn neu ar ôl yr argymhelliad meddygol. Rhaid derbyn person i ysbyty cyn pen 24 awr ar ôl llofnodi'r naill ffurflen neu'r llall.
Mae cyfnod cadw o dan Adran 4 yn parhau am 72 awr ac ni ellir ei ymestyn. Gellir troi cadw o dan Adran 4 yn gadw o dan Adran 2 trwy gael ail farn feddygol yn ystod y cyfnod o 72 awr.
Mae Adran 5 y Ddeddf yn ymwneud â chadw person sydd eisoes yn yr ysbyty. Pwrpas yr adran hon yw caniatáu i berson sydd eisoes yn yr ysbyty gael ei gadw yn yr ysbyty mewn sefyllfa argyfwng er mwyn rhoi mwy o amser i wneud cais Adran 2 neu 3.
Gellir gwneud cais am gadw o dan Adran 5 gan feddyg yr unigolyn yn yr ysbyty neu gan rai raddau o nyrsus. Nid oes rhaid i'r meddyg gael ei gymeradwyo o dan adran 12, ond rhaid iddo fod yn Swyddog Meddygol Cyfrifol (RMO) y person neu'n feddyg a enwir gan ei RMO.
Bydd y cadw'n parhau am 72 awr pan wneir hynny gan feddyg ac am 6 awr neu nes bydd meddyg yn cyrraedd os gwneir hynny gan nyrs. Os yw meddyg yn cyrraedd ac yn penderfynu gwneud gorchymyn adran 5, mae 6 awr y nyrs yn cael eu cynnwys yn y 72 awr.
Rhyddhau o'r ysbyty - dylai hyn gael ei hwyluso drwy gael cefnogaeth gan asiantaethau statudol a gwirfoddol. Fel rhan o gynllun gofal rhyddhau, gellir trefnu bod cefnogaeth yn dal i gael ei darparu gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl yn y gymuned. Gall y tîm hwn o weithwyr proffesiynol gynnwys Nyrsus Seiciatrig Cymunedol, Gweithwyr Cymdeithasol, Meddygon Teulu a swyddogion cefnogaeth ac eiriolaeth.
Gall y tîm hwn ddarparu ystod o wasanaethau sy'n cwmpasu monitro a rhoi meddyginiaeth; darparu 'therapïau llafar" a chynnig cefnogaeth hirdymor. Y drefn arferol yw fod apwyntiad dilynol yn cael ei drefnu wedi i'r claf gael ei ryddhau.
Adran 2 Gellir rhyddhau person o'i gadw o dan Adran 2 trwy gael awdurdod:
- Y Swyddog Meddygol Cyfrifol (RMO)
- Rheolwyr yr ysbyty
- Y perthynas agosaf, sy'n gorfod rhoi 72 awr o rybudd o'i fwriad i ryddhau'r claf. Gall yr RMO atal person rhag cael ei ryddhau gan y perthynas agosaf trwy gyflwyno adroddiad i reolwyr yr ysbyty.
- Y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl. Mae gan y claf yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl yn ystod 14 diwrnod cyntaf ei gadw.
Adran 3 Gellir rhyddhau person o'i gadw o dan Adran 3 trwy gael awdurdod:
- Y Swyddog Meddygol Cyfrifol (RMO)
- Rheolwyr yr ysbyty
- Y perthynas agosaf, sy'n gorfod rhoi 72 awr o rybudd o'i fwriad i ryddhau'r claf. Gall yr RMO atal person rhag cael ei ryddhau gan y perthynas agosaf trwy gyflwyno adroddiad i reolwyr yr ysbyty.
- Y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl
Mae gan y claf yr hawl i apelio i'r MHRT yn erbyn ei gadw unwaith yn ystod chwe mis cyntaf ei gadw, unwaith yn y chwe mis canlynol ac unwaith bob blwyddyn wedi hynny.
Os na wneir unrhyw apêl yn ystod y chwe mis cyntaf, caiff ei gyfeirio'n awtomatig i sylw'r MHRT. Wedi hynny caiff yr achos ei gyfeirio yn awtomatig ar ddiwedd tair blynedd ar ôl ei ystyried ddiwethaf yn y Tribiwnlys.
Os yw'r perthynas agosaf wedi cael ei wahardd rhag rhyddhau'r claf, gall apelio i'r MHRT.
Gosodir gofynion rhyddhau penodol ar berson sy'n cael ei ryddhau o dan Adran 3/Adran 37 y Ddeddf. Yma gosodir dyletswydd ar yr Ymddiriedolaeth a'r Awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal, trwy gydweithredu ag asiantaethau gwirfoddol lleol perthnasol. O dan amodau'r adran hon, mae'n rhaid i'r RMO drefnu cynhadledd achos aml-ddisgyblaethol i gytuno'r cynllun ôl-ofal cyn pen chwe wythnos ar ôl dyddiad derbyn y claf i'r ysbyty. Un o'r gofynion statudol yw fod rhaid cynnwys gofalwyr, y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r sector gwirfoddol yn hyn. Rhaid cynnal cynhadledd achos aml-ddisgyblaethol cyn rhyddhau'r claf er mwyn sicrhau bod holl elfennau'r cynllun gofal wedi'u trefnu, gan gynnwys asesiad o anghenion tai a chefnogaeth.
Adran 4: Y Swyddog Meddygol Cyfrifol (RMO) yn unig all ryddhau claf o'i gadw o dan Adran 4 Deddf Iechyd Meddwl 1983. Gall y sawl sy'n cael ei gadw apelio yn erbyn y bwriad i droi cadw o dan adran 4 yn gadw o dan adran 2.
Adran 5: Y Swyddog Meddygol Cyfrifol yn unig all ryddhau claf o'i gadw o dan Adran 5 Deddf Iechyd Meddwl 1983. Nid oes gan y sawl sy'n cael ei gadw unrhyw hawl i apelio yn erbyn ei gadw.
|