Hawliau Cyfreithiol Gofalwyr a'r Perthynas Agosaf
Deddfwriaeth ar gyfer gofalwyr
Mae hawliau cyfreithlon gofalwyr wedi cael eu ehangu drwy dri rhan o ddeddfwriaeth, ac mae pob un ohonynt yn gymwysiadol i Gymru:-
- Y Ddeddf (Adnabyddiaeth a Gwasanaethau) Gofalwyr 1995, sydd yn nodi yn ffurfiol rhan a swyddogaeth gofalwyr ac, am y tro cyntaf, yn rhoi iddynt yr hawl i gael asesiad o'u hanghenion eu hun.
- Fe wnaet y Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2008 ehanhu'r hawl yma i asesiad, ac hefyd fe roddwyd yr hawl i lafnau o'r oedran 16 a 17.
- Y Ddeddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 yw'r deddfwriaeth mwyaf ddiweddar ar gyfer gofalwyr ac fe wnaedd y ddeddf ehangu eu hawliau yn sylweddol.
Gwybodaeth Bellach: www.carers.gov.uk
Trwy'r Deddf 1995, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i:
- Asesu anghenion y gofalwyr eu hunain pan fydd asesiad neu ail-asesiad o'r sawl maent yn gofalu amdano yn cael ei gynnal, ar yr amod fod y gofalwr yn darparu cryn dipyn o ofal yn rheolaidd.
- Asesu gallu'r gofalwr i barhau i ofalu os yw'n gofyn am hynny.
Dylai'r asesiad:-
- Gymryd i ystyriaeth y gynhaliaeth ar gael gan ofalwyr
- Gwneud i ofalwyr deimlo bod y gwaith o gynnig cynhaliaeth yn gyfrifoldeb sy'n cael ei rannu rhyngddynt a'r awdurdodau statudol
- Rhoi ystyriaeth i ddymuniadau gofalwyr
- Peidio â chymryd yn ganiataol fod gofalwyr yn barod i barhau'r gwaith gofalu
- Cynnal yr asesiad trwy ymgynghori â defnyddiwr y gwasanaeth a'r gofalwr
Gwybodaeth Bellach: Rethink
Cafodd y ddeddf 2004 ei gweithredu yng Nghymru ym mis Ebrill 2005. Mae'n diwygio'r ddeddfau 1995 a 2000 ac yn rhoi i ofalwyr mwy o ddewis a chyfleoedd i fyw bywydau mwy cyflawn trwy gorfodi Awdurdodau Lleol i sicrhau bod:-
- gofalwyr yn cael gwybod am eu hawliau, yn cynnwys yr hawl i asesiad gofalwr.
- asesiad gofalwr yn ystyried angen nei eisiau'r gofalwr i weithio, neu'r eisiau i gael seibiant oddi wrth ofalu er mwyn cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu weithred hamdden.
- rhannau eraill o'r awdurdod lleol (e.e. Llety neu Addysg) yn gweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol os gofynnir Gwasanaethau Cymdeithasol am eu cymorth er mwyn darparu cefnogaeth i ofalwyr.
Y Berthynas Agosaf o fewn y Ddeddf Iechyd Meddwl
Mae'r term 'perthynas agosaf' yn cael ei ddefnyddio'n aml mewn deddfwriaeth iechyd meddwl wrth gyfeirio at y person agosaf at glaf sydd yn, neu'n cael ei asesio i benderfynu os oes angen cael ei gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae'n debyg for gan y 'perthynas agosaf' ran sylweddol mewn gofalu am y claf, ond nid yw hyn yn hanfodol. Mewn unrhyw achos mae gan y 'berthynas agosaf' ran pwysig mewn diogelu'r claf o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Nid oes raid i'r 'perthynas agosaf' fod yn 'next of kin'. Mae Adran 26 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn nodi pwy ydyw, ac fel arfer y person sy uchaf ar y restr canlynol ydyw:-
- Gŵr, gwraig neu partner dinesig (wedi'u priodi'n gyfreithlon neu beidio)
- Mab neu ferch
- Tad neu fam
- Brawd neu chwaer
- Taid neu Nain/Tadcu neu Famgu
- Ewythr neu fodryb
- Nai neu nith
Os oes dau berson ar yr un raddfar o'r restr hon, fel arfer y person hynaf fydd yn berthynas agosaf (boed yn ddyn neu'n fenyw).
Mae gan y berthynas agosaf nifer o hawliau / swyddi pwysig o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mewn crynodeb, dylai Perthynas Agosaf gael gwybo am, cael ei ymgynhori ar a gallu cyfrannu at nifer o benderfyniadau allweddol ynglŷn â gofal a thriniaeth y claf. Mae ganddynt hefyd nifer o swyddi gyfreithiol penodol, yn cynnwys y canlynol (er nad yw hyn yn restr lawn):-
- Gwneud cais i 'r claf gael ei dderbyn i ysbyty o dan adran 2, 3 a 4 y Ddeddf Iechyd Meddwl neu ei dderbyn i mewn i warcheidwaeth o dan adran 7. (Sylwer: Dywed Cod Ymarfer y Ddeddf ei bod yn well i'r cais gael ei wneud gan Weithiwr Cymdeithasol Cymeradwy.)
- Cael gwybod os bydd y Gweithiwr Cymdeithasol Cymeradwy (GCC) yn gwneud cais am dderbyn claf o dan adran 2 ac i orfodi asesiad os nad yw hyn yn digwydd
- Cael y cyfle i fynegi barn cyn i'r GCC wneud cais am dderbyn claf o dan adran 3 neu 7.
- Gwrthwynebu derbyniad adran 3 neu 7. (Sylwer: Mewn sefyllfa felly ni ellir parhau â'r cais, ond bod y perthynas agosaf yn cael ei 'ddadleoli' gan y Llys Sirol).
- Cael gwybod beth yw canlyniad asesiad. Os yw'r GCC yn penderfynu peidio â gwneud cais am dderbyn person i'r ysbyty, gall y perthynas agosaf ddefnyddio ei hawl annibynnol i wneud trefniant.
- Derbyn gwybodaeth am gadw'r claf, yn cynnwys gwybodaeth am gyfeirebau i'r Dribiwnlysd Adolygiadau Iechyd Meddwlyng Nghymru, onibai fod y claf yn gwrthwynebu.
- Cael saith diwrnod o rybudd fod y claf i gael ei ryddhau, oni bai bod y claf yn gwrthwynebu.
- Rhyddhau'r claf o'i adrannau 3 neu 7, trwy roi i Reolwyr yr Ysbyty 72 awr o rybudd (ond gall hyn gael ei oruwchreoli).
- Cael gwybod am, a chyfrannu at, benderfyniadau am Driniaeth Cymunedol wedi'i Goruwchwylio (TCG), ac i ryddhau'r claf o TCG.
Gofalwyr a'r Ddeddf Iechyd Meddwl
Yn anhebyg i'r Perthynas Agosaf, nid oes gan gofalwyr unrhyw hawliau neu swyddi penodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, mae pwysicrwydd gofalwyr wedi'i adnabod am y tro cyntaf yng Nghodau Ymarfer y Ddeddf Iechyd Meddwl trwy Côd Cymru, a ddaeth i mewn ym mis Tachwedd 2008. Gelwir Bennod 24 o'r Côd yn ‘Ymrwymiad Gofalwyr', ac mae'n nodi bod gan bobl broffesiynol gyfrifoldeb glir i ymrwymo gofalwyr mewn gwneud penderfyniadau o gwmpas y claf.
Yn benodol, mae'r Côd yn dweud y dylai gofalwyr gael gwybod am, cyfrannu at ac ymrwymo mewn asesiad, cynllunio gofal, triniaeth, rhyddhau ac ôl-ofal. Mae hefyd yn dweud y dylai bobl broffesiynol ystyried anghenion gofalwyr tra y byddent yn gofalu, gan gynnwys yr angen am wybodaeth, hyfforddiant neu cymorth. Dylent hefyd ystyried y beryglon a'r pwysau maent yn gwynebu.
Gwybodaeth bellach ar gyfer perthnasau agosaf a gofalwyr
Mae Côd Ymarfer Iechyd Meddwl Cymru yn dardd ddefnyddiol o wybodaeth ar gyfer Perthnasau Agosaf a gofalwyr. Mae ganddo benodau ar y ddau swydd (Penodau 23 a 24) ac mae yna hefyd nifer o gyfeirebau ychwanegol drwy gydol y Côd. Gall rhain cael eu darganfod gan ddefnyddio'r mynegiad cyfannol ar y diwedd. Mae'r mynegiad yn gosod allan gyfeirebau allweddol ar gyfer gofalwyr a Pherthnasau Agosaf.
Mae pob un o brif ddogfennau ynglŷn â'r Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Côd Ymarfer, gan gynnwys tudalennau gwybodaeth, i'w gael ar wefan Iechyd yng Nghymru.
|