image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

GIG Cymru

Mae'r GIG yng Nghymru yn darparu:

Gofal sylfaenol - meddygon teulu, optegwyr, deintyddion, fferyllwyr, a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill

Gofal eilaidd - ysbytai a gwasanaethau ambiwlans

Gofal trydyddol - trwy ysbytai arbenigol sy'n trin mathau arbennig o salwch megis canser

Gofal yn y gymuned - fe'i darperir gan y GIG mewn partneriaeth â gwasanaethau cymdeithasol lleol i helpu pobl fregus, megis yr henoed neu bobl gydag anableddau, i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag mewn sefydliadau.

Mae'r GIG hefyd yn darparu gwasanaethau arbenigol sy'n cefnogi gwaith diagnosis a darparu triniaethau ac atal clefydau, megis gwasanaethau sgrinio.

Mae'r Cynulliad yn dyrannu arian bob blwyddyn i bob un o'r 22 Bwrdd Iechyd Lleol. Gellir cael cysylltiadau iddynt drwy www.cymru.gov.uk.

Mae'r Byrddau Iechyd Lleol yn prynu gwasanaethau iechyd gan weithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol, megis meddygon teulu, deintyddion ac optegwyr, a chan yr Ymddiriedolaethau GIG sy'n darparu gofal eilaidd a chymunedol.

Mae'r Byrddai Iechyd Lleol yn gwneud cyfraniad pwysig mewn tri phrif faes:

  • datblygu'r Rhaglenni Gwella Iechyd (RhGI);
  • datblygu egwyddorion llywodraethu clinigol er mwyn gwella ansawdd gofal iechyd sylfaenol; a
  • chyfrannu at y gwaith o gomisiynu gwasanaethau ysbyty ac iechyd cymunedol, a datblygu'r gwaith hwnnw.

Mae bron i 1,900 o feddygon teulu yng Nghymru, bron i 1,000 o ddeintyddion, a thua 600 o optegwyr. Meddygon teulu yw'r 'porth' i'r GIG, gan gyfeirio pobl i ysbytai neu am driniaeth arbenigol lle bydd angen.

Gwybodaeth bellach:  www.wales.nhs.uk/directory.cfm

Mae 15 Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru, gan gynnwys un ymddiredolaeth ambiwlans ar gyfer Cymru gyfan. Rhyngddynt, mae'r Ymddiriedolaethau yn rheoli 135 o ysbytai a thua 15,000 o welyau. Bydd hanner miliwn o bobl - un rhan o chwech o'r boblogaeth - yn treulio cyfnod yn yr ysbyty mewn unrhyw flwyddyn benodol.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Ymddiriedolaethau GIG ac awdurdodau iechyd ymgynghori â'u Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) os ydynt yn bwriadu gwneud newidiadau mawr ym mhatrwm neu ddarpariaeth gwasanaethau.

Ceir CIC yn ardaloedd pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac maent yn mynd i'r afael ag ystod eang o faterion iechyd ar ran y cyhoedd.

Pwy sy'n talu am y GIG? Caiff y GIG ei ariannu gan drethi er bod cyfran fechan o incwm y GIG yn dod o daliadau - am bresgripsiynau a'r rhan fwyaf o waith deintyddol, er enghraifft. Cynigir nifer o wahanol eithriadau er mwyn sicrhau na fydd neb yn methu cael gofal oherwydd na all dalu amdano.

Paul Williams yw pennaeth Cyfarwyddiaeth y GIG yn y Cynulliad Cenedlaethol. Y Gyfarwyddiaeth yw adran y gwasanaeth sifil sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru.

Dr Tony Jewel ywâ’r Prif Swyddog Meddygol (CMO). Maeâ’r CMO yn cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol annibynnol i Brif Weinidog a gweinidogion eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac i swyddogion ar faterion iechyd a gofal iechyd yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Maeâ’r Prif Swyddog Meddygol:

  • Yn arwain polisi a rhaglenni iechyd cyhoeddus, gan weithio ar draws holl adrannau polisiâ’r Cynulliad Cenedlaethol a chydag amrywiaeth eang o bartneriaid allanol, gydaÂ’r nod o wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau o ran iechyd.
  • Yn arwain y cyfraniad clinigol yng Nghymru tuag at wella ansawdd gofal iechyd a deilliannauâ’r claf.
  • Yn arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru, gan chwarae rhan allweddol mewn rheoli, addysg a hyfforddiant, safonau a pherfformiad meddygol.
  • Yn cynnal cysylltiadau priodol o fewn y DU ac yn genedlaethol, gan weithio gyda Phrif Swyddogion Meddygol eraill yn y DU, adrannauâ’r llywodraeth a sefydliadau.

Dechreuodd Dr Tony Jewell yn ei swydd fel Prif Swyddog Meddygol Cymru ym mis Ebrill 2006. 
 

Dr David Salter yw'r Prif Swyddog Meddygol Gweithredol a phennaeth y Gyfarwyddiaeth Gwella a Diogelu Iechyd yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am wella iechyd a lles pobl Cymru.

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru