image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Materion Heddlu

Swyddogion Cyswllt Iechyd Meddwl

Mae gan heddluoedd yng Nghymru y Swyddogion Cyswllt Iechyd Meddwl canlynol y gellir cysylltu â nhw i gael gwybodaeth a chyngor:

Heddlu Gogledd Cymru
Pencadlys Canolog yr Adran
Parc Busness Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
Ffôn: 01745 588491

Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys Adrannol Sir Gaerfyrddin
Parc y Brodyr Llwydion
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
Ffôn: 01267 222020 Est. 546 

Heddlu De Cymru
Gorsaf Heddlu Port Talbot
Heol yr Orsaf
Port Talbot
SA13 1JB
Ffôn: 01639 889149

Heddlu Gwent

1-3 Heol Caerdydd

Casnewydd

NP20 2EH

Ffôn: 01633 247804

 

Adran 136 y Ddeddf Iechyd Meddwl

Mae yna achlysuron pan all yr Heddlu actio os ydynt yn credu bod rhywun yn dioddef o afiechyd meddwl ac mewn angen driniaeth neu gofal ar unwaith. Mae eu pwerau ar gyfer achlysuron fel hyn wedi’u gosod allan yn Adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn rhoi iddyn nhw’r awdurdod i gymryd rhywun o fan gyhoeddus i ‘Le Diogel’, naill ai er mwyn diogelwch ei hun neu er mwyn diogelwch pobl eraill, er mwyn iddynt fedru asesu eu hanghenion uniongyrchol.

 

Fe all Le Diogel fod mewn ysbyty, gorsaf heddlu neu rhywle arall dynodedig. Fodd bynnag, mae’r canllawiau mwyaf diweddar yn dweud y dylai gorsaf heddlu gael ei ddefnyddio ond mewn sefyllfeydd eithriadol. Mae pob ardal yng Nghymru yn gweithio i sicrhau bod Lefydd Diogel ar gael mewn sefydliadau addas, fel arfer mewn ysbytai.

 

Yn y Lle Diogel, fe fydd y person yn cael ei archwilio gan feddyg ac yna yn cael cyfweliad gyda pherson Broffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (PIMC), a ddylai wirio’n ofalus bod y person yn dioddef o afiechyd meddwl, ac os ddylen nhw fod yn yr ysbyty neu os oes angen arnynt fwy o gymorth a thriniaeth yn y cartref.  Fel arfer bydd y meddyg a’r PIMC yn gweld y person gyda’i gilydd. Fe all y meddyg fod yn feddyg nei seiceiatrydd yr heddlu. Fel arfer fe fydd y PIMC yn Weithiwr Gymdeithasol, ond fe all hefyd fod yn nyrs arbenigol neu weithiwr iechyd meddwl arall.

 

Fe all berson gael ei gadw mewn Le Diogel am 72 awr ar y mwyaf. Fodd bynnag, mae’r canllawiadau ar gyfer staff broffesiynol yn dweud y dylai person cael ei gadw ond am more hir ag sy angen er mwyn i’r asesiadau gymryd lle. Fe all berson gael ei symud o un Le Diogel i un arall (o fewn y 72 awr), cyn hired bod hwn er lles y claf.

 

Mewn Le Diogel mae gan staff broffesiynol ddyletswydd i barchu hawliau dynol berson. Mae hyn yn golygu y dylent gael eu trin yn ddyngar, gyda sensitifrwydd a gydag urddas. Mae gan y berson hefyd hawl i:-  

·         rhoi gwybod i berson a dewiswyd ei hun ble ydyw

·         gael gwybod beth sy’n digwydd iddo

·         gael cyngor gyfreithiol annibynnol

·         gael cymorth oddi wrth oedolyn addas

·         luniaethau resymol, boed yn diod neu bwyd

Mae gan yr heddlu yr awdurdod i chwilio person ac i gymryd pethau i ffwrdd a all gael eu defnyddio i niweidio rhywun. Gallent wneud hwn cyn mynd â’r person i’r Lle Diogel ac hefyd yn y Lle Diogel. Rhaid iddynt restru unrhywbeth yr ydynt yn cymryd i ffwrdd ac, ar y diwedd, dychwelyd unrhyw beth sy ddim yn beryglus. 

 

Pwrpas Adran 136 yw i roi wagle ac amser ar gyfer gwneud asesiadau ac nid oes gan meddygon neu nyrsys unrhyw awdurdod i drîn rhywun yn erbyn eu ewyllys. Fodd bynnag, dylid gynnig driniaeth hanfodol i berson, efallai yn Ardran Argyfwng yr ysbyty, os oes rhaid. Heb caniatàd y person, gall driniaeth ond gael ei ddarparu mewn sefyllfeydd eithriadol sy’n bygwth bywyd, yn ôl Erthygl 5 o’r Ddeddf Hawliau Dynol.

 

Rhaid i bob ardal leol gael canllawiadau ysgrifenedig, sydd wedi’u cytuno rhwng yr heddlu, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn rhoi Adran 136 ar waith. Mae hawl gan y cyhoedd i weld y canllawiadau hyn.

 

Gwybodaeth bellach:

 

Cymerwyd y wybodaeth yma oddi wrth:-

 

·         y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a diwygiwyd gan y Ddeddf Iechyd Meddwl 2007

·         Côd Ymarfer Cymraeg y Ddeddf Iechyd Meddwl 2008

Mae pob un o brif ddogfennau ynglŷn â’r Ddeddf Iechyd Meddwl a’r Côd Ymarfer, gan gynnwys dudalennau gwybodaeth, i’w cael ar wefan Iechyd yng Nghymru .

 

 

03 Feb 2012
Iselder na sydd wedi’i drin ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau...Read more...

27 Jan 2012
Y Gweinidog Iechyd yn datgelu amlinelliad o’r ...Read more...

27 Jan 2012
AS yn rhybuddio am y bygythiad i les meddwl a seicolegol plant a phobl ifanc...Read more...

25 Jan 2012
ChildLine yn profi cynnydd “dramatig” yn y nifer o alwadau sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru