Gwasanaethau Iechyd
Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Iechyd Meddwl (FfGC)
Y FfGC Iechyd Meddwl 2002
Wedi cyhoeddiad y Strategaeth Iechyd Meddwl ym 2001, fe gynhyrchodd Llywodraeth Cynulliad Cymru eu FfGC Iechyd Meddwl cyntaf, ym mis Ebrill 2002. Gosododd y ddogfen hon nifer o Safonau a Gweithredoedd Allweddol, er mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus y Strategaeth.
Mae'n deg i ddweud fod pobl broffessiynol ym maes iechyd meddwl wedi cael problemau efo gweithrediad y FfGC, ac fe fu cynnydd tuag at sicrhau bod pob ardal leol â mynediad i gwmpas lawn y gwasanaethau yn y Strategaeth yn araf. Amlygwyd y diffyg cynnydd yma gan yr "Arolwg Sylfaenol o Ddarpariaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru" gan Swyddfa Archwilio Cymru ym 2004. Fe wnaeth arolygon, archwiliadau a digwyddiadau eraill hefyd amlygu'r angen i gynyddu yn gyflymach ac yn fwy cyson wrth weithredu'r Strategaeth a'r FfGC.
Codi'r Safon
Felly, penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i arolygu a diweddaru y FfGC, ac i ychwanegu cynllun gweithredu glir. Y canlyniad oedd cyhoeddiad "Codi'r Safon: Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig a Chynllun Gweithredi i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion yng Nghymru" ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Byd-eang, 10fed Hydref 2005. Mae'r ddogfen hon yn ailosod y FfGC cyntaf, a gafodd ei gyhoeddi ym 2002.
Mae'r FfGC diwydiedig yn ceisio "sefydlu safonau ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru, gwella ansawdd a lleihau amrywiadau annerbyniol yn y gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu darparu."
Mae "Codi'r Safon" yn sefydlu 8 Safon a 44 Gweithred Allweddol, i'w cyflawni erbyn 2013. Ar y cyfan maent yr peth â'r FfGC wreiddiol, ond mae'r geiriad wedi'i diweddaru er mwyn adlewyrchu comisiynu, rheolaeth perfformiad a threfniadau arolygu diweddar.
Cwmpas y FfGC diwygiedig
Mae’r FfGC hwn yn cwmpasu heriau iechyd cyhoeddus, hybu iechyd a chynhwysiad cymdeithasol, anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, mynediad i wasanaethau a darpariaeth asesiad a thriniaeth gynhwysfawr. Mae’n cysylltu â materion sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl i blant, gwasanaethau iechyd meddwl i bobl h?n, darpariaeth camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a phobl gyda phroblemau iechyd meddwl sydd yn y system cyfiawnder troseddol.
Er ei fod yn canolbwyntio ar oedolion o oed gweithio, fel arfer rhwng 18 a 65 oed, mae nifer o’r egwyddorion yr un mor berthnasol i bobl dros 65 oed. Bydd canllawiau mwy penodol yn ymwneud ag anghenion iechyd meddwl pobl dros 65 oed i’w cael yn y FfGC ar gyfer pobl h?n, fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2006.
Gosodir safonau ar gyfer wyth prif weithgaredd:
| Cynhwysiad cymdeithasol, hybu iechyd a thaclo stigma |
Safon 1 |
| Grymuso defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr |
Safon 2 |
| Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer patrwm arferol o fywyd dyddiol |
Safon 3 |
| Cynnig gwasanaethau cyfartal a hygyrch |
Safon 4 |
| Comisiynu gwasanaethau effeithiol, cynhwysfawr ac ymatebol |
Safon 5 |
| Cyflwyno gwasanaethau effeithiol, cynhwysfawr ac ymatebol |
Safon 6 |
| Asesiadau a llwybrau gofal effeithiol ar gyfer cleientiaid |
Safon 7 |
| Sicrhau gweithlu gyda digon o staff, sgiliau a chefnogaeth |
Safon 8 |
I lawrlwytho copi o “Codi’r Safon” cliciwch yma.
Mae Hafal wedi cynhyrchu arweiniad byr, hawdd i’w ddefnyddio, i’r FfGC diwygiedig, sy’n gosod amserlen hawdd ei darllen o’r targedau perfformiad yn erbyn pob Cam Allweddol o’r Fframwaith. I lawrlwytho copi o amserlen FfGC Hafal, cliciwch yma.
|