Strategaeth Gofalwyr yng Nghymru
Strategaeth Gofalwyr yng Nghymru
Mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo'r Strategaeth Gofalwyr ac wedi trefnu cynllun grantiau ar gyfer cynnig seibiant i ofalwyr. Nid yw'r Strategaeth na'r cynllun grantiau yn gyfyngedig i faes iechyd meddwl, ond erbyn hyn ceir ystod o wasanaethau ar draws Cymru sy'n ymwneud yn benodol â gofalwyr pobl sydd â salwch meddwl.
Gofalwyr yw pobl sy'n gofalu am aelodau'r teulu neu gyfeillion sydd angen gofal, help neu gynhaliaeth arnynt. Gall gofalwyr fod yn oedolion yn gofalu am oedolion eraill, rhieni yn gofalu am blant sâl neu anabl o dan 18, neu'n ofalwyr ifanc 18 oed sy'n gofalu am aelod arall o'r teulu. Nid oes y fath beth â gofalwr "nodweddiadol". Mae gwaith gofalwr yn aml yn effeithio ar y teulu cyfan.
Amcan y Strategaeth Gofalwyr yng Nghymru - Cynllun Gweithredu yw gwella iechyd a lles gofalwyr yn yr hirdymor a'r sawl y maent yn gofalu amdanynt.
Gwybodaeth Bellach: www.wales.gov.uk/subicarersnew/index.htm
Pum prif flaenoriaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Strategaeth yw:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwybodaeth
- Cefnogaeth
- Gofalwyr Ifanc
- Gofalwyr a Gwaith
Beth sy'n bwysig i ofalwyr:
- Lles y person y gofelir amdano
- Y rhyddid i allu byw eu bywyd eu hunain
- Gofalu am eu hiechyd eu hunain
- Hyder yn y gwasanaethau
- Llais yn y gwasanaethau a ddarperir
Gwasanaethau i Ofalwyr
Mae Hafal yn darparu gwasanaethau i ofalwyr ymhob rhan o Gymru, a gall hefyd eich cyfeirio at asiantaethau eraill. Cysylltwch â Hafal i gael gwybodaeth bellach yn info@hafal.org
Gwybodaeth Bellach: www.hafal.org
|