image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Pwy yw Pwy ym maes Iechyd Meddwl Yng Nghymru

PWY YW PWY YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

Mae’r cyfrifioldeb am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys iechyd meddwl, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru  a Llywodraeth Cymru. Rôl bwysig y Cynulliad Cenedlaethol yw datblygu a gweithredu polisïau sydd yn adlewyrchu anghenion penodol pobl Cymru.

Llywodraeth Cymru yw gweithgor y Cynulliad ac mae’r pŵer ganddi i gyllido, cyfarwyddo a gwneud apwyntiadau i gyrff GIG yng Nghymru a’u dal yn atebol, i weithredu polisïau sydd yn ymwneud â gofal yn y gymuned.

Mae’n bosib cael mwy o wybodaeth ynghylch sut y mae’r Cynulliad yn gweithio drwy gyfrwng y gwefannau:

Llywodraeth Cymru        http://new.wales.gov.uk

Cynulliad Cenedlaethol Cymru         www.assemblywales.org

Ffigyrau allweddol ar gyfer Iechyd Meddwl yn y Cynulliad

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru yw:

GRIFFITH LESLEY MINISTER.jpg


Lesley Griffiths (Aelod Cynulliad dros Wrecsam) yw’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yw pwyllgor allweddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer iechyd meddwl. Caiff ei alw’n Bwyllgor Craffu, ac fel yr awgrymir gan y term hwn, ei rôl allweddol yw archwilio polisïau, gweithredodd a gwariant y Llywodraeth ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac i ddal Gweinidogion yn atebol a hefyd i gadw llygad ar gyrff y llywodraeth ac asiantaethau o fewn y maes hwn.

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cael ei gadeirio gan Mark Drakeford (Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd)

Am fwy o wybodaeth am strwythur Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad, cliciwch yma

 

03 Feb 2012
Iselder na sydd wedi’i drin ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau...Read more...

27 Jan 2012
Y Gweinidog Iechyd yn datgelu amlinelliad o’r ...Read more...

27 Jan 2012
AS yn rhybuddio am y bygythiad i les meddwl a seicolegol plant a phobl ifanc...Read more...

25 Jan 2012
ChildLine yn profi cynnydd “dramatig” yn y nifer o alwadau sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru