image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Rhianta a pherthnasau gofalu

Rhianta a pherthnasau gofalu

Gallwch ddewis i:-

• Gofyn am gymorth er mwyn cynnal gofalu a bod yn rhieni yn y gymuned
• Ymuno â grŵp gofalwyr
• Mynd i glwb ‘Rhiant a Phlentyn' lleol
• Gofyn am gymorth oddi wrch eich ysgol leol
• Gwella cysylltiadau gydag adref os ydych yn yr ysbyty

Perthnasau rhiantu

Mae Gweithred Allweddol 3 o "Codi'r Safon: Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig a Gweithredu i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru" yn esbonio'n glir y fath o gymorth ddylai rhieni ddisgwyl os ydynt yn sâl.

Dywedir: "Dylai'r awdurdodau hybu cynhwysiant cymdeithasol drwy diwallu anghenion grwpiau penodol o bobl hawdd eu niweidiol sydd â phroblem iechyd meddwl ac sydd eisios mewn perygl o gael eu dieithrio e.e. rhieni sydd â phroblemau iechyd meddwl."

Yn y cyfamser mae Gweithred Allweddol 39 o'r Fframwaith yn dweud, wrth ystyried plant, bod: "Dylid ystyried anghenion plant a phobl ifanc hawdd eu niweidio y mae gan eu rhieni / gwarcheidwaid broblemau iechyd meddwl yn ofalus iawn. Dylid cynllunio'n ofalus er mwyn
sicrhau bod pob agwedd ar eu hanghenion yn cael ei hystyried, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle maent yn gweithredu fel gofalwyr."

Mewn geiriau eraill, pan mae rhiant yn mynd yn sâl, gynghorwyd eich awdurdod lleol i daclo afiechyd meddwl y rhiant a lles y plentyn gyda'i gilydd, drwy integreiddio gwasanaethau iechyd, cymdeithasol, llety ac addysg.

Beth all riant wneud i'w blentyn cyn iddynt mynd yn sâl?

Os yw rhieni yn mynd yn sâl ac yn gorfod mynd i'r ysbyty ar gyfer driniaeth, fe fyddent yn amlwg yn pryderu am lles eu plentyn tra'u bod yn absennol.
Efallai hefyd y byddent yn pryderu am yr effeithiau emosiynol neu seicolegol tymor hir gall eu absenoldeb gael ar eu plentyn.

Yn yr amgylchiadau hyn, mae gofal y plentyn yn dibynnu ar amgylchiadau'r teulu. Os nad yw aelod o deulu'r plentyn (aelod agos neu estynedig) yn medru gofalu amdano, fe fydd y cyngor lleol yn medru helpu diwyllu anghenion y teulu.

Tra bo riant yn yr ysbyty fe all blant ddioddef nifer o broblemau, gan gynnwys mwy o bryder, unigrwydd a blagio (am salwch ei riant) oddi wrth plant eraill. Fe all y ffactorau hyn i gyd gael effaith ar ansawdd gwaith y plentyn a'i les cyffredinol.

Os oes ofn gan riant ei bod yn mynd yn sâl, fe all gymryd camau positif, ymarferol o flaenllaw - camau a gall, os caiff ei dderbyn i'r ysbyty, cael eu cario allan gan rywun yr ydynt yn ymddiried ynddo, a gall helpu sicrhau bod sefyllfa anodd tamaid bach yn haws.

Fe all y camau positif i'w gymryd cyn mynd i'r ysbyty gynnwys:-

• Y rhiant yn esbonio'n llawn beth fydd yn digwydd i'w blentyn wrth iddo gael ei drinio
• Y rhiant yn rhoi gwybodaeth gwir a chlir i'w blentyn ynglŷn â'i afiechyd meddwl er mwyn hybu dealldwriaeth
• Y rhiant yn creu beth elwir y Sefydliad Iechyd Meddwl yn ‘dudalen gwybodaeth arferion', sydd yn esbonio am arferion dyddiol / wythnosol a dylai cael eu dilyn mewn absenoldeb y rhiant. Mae gan dudalennau gwybodaeth nifer fawr o fuddion. Er enghraifft, os mae gwarchodwr y plentyn yn dilyn dudalen gwybodaeth, gall hwn roi deimlad o sicrwydd a pharhad i'r plentyn. Hefyd fe all ysgrifennu dudalen gwybodaeth wneud i riant absennol deimlo ei bod yn cyfrannu at lles ei blentyn tra byddent ar wahân.
• Y rhiant yn cynghori'r plentyn ar beth i ddisgwyl pan fyddent yn ymweld a'r rhiant yn yr ysbyty
• Y rhiant yn rhoi darparu gwybodaeth i'w roi i ysgol y plentyn os ydynt yn gorfod mynd i'r ysbyty. Fe all y wybodaeth hon helpu athrawon i ddeall anghenion y plentyn yn ystod amser anodd iawn.

Os nad yw person ifanc yn cael gwybod am beth i ddisgwyl, neu'n teimlo'i bod yn methu ymdopi pan mae ei fam neu dad yn sâl iawn, fe all wneud apwyntiad i weld ei feddyg teulu er mwyn cael mwy o wybodaeth. Fe all hefyd gysylltu â'u Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol, trwy'r cyngor lleol.

Gofalwyr ifainc

Fe all gofalwyr ifainc golli allan ar weithredau addysgol, cymdeithasol a hamdden oherwydd eu bod yn gofalu. Yn aml nid yw'r gwasanaethau yn eu hadnabod. Dangoswyd astudiaeth gan yr NSPCC bod nifer o ofalwyr ifainc yn cael profiadau arwyddocaol o golled, hunan-fai a stigma.

Mae'n bwysig iawn i ofalwyr o bob oedran i gael y cymorth sy angen arnynt, yn enwedig oddi wrth eu meddyg teulu a Tîm Iechyd Meddwl Cymdeithasol. Gofynnwch i'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol am Asesiad Gofalwr, oherwydd fe fydd hwn yn dangos ble sy angen help arnoch a phwy all eich helpu chi. Mae'n bwysig bod gofalwyr o bob oedran (yn cynnwys gofalwyr o dan 18 mlwydd oed) yn cael gwybod am unrhyw datblygiadau mewn triniaeth y person maent yn gofalu amdano. Dylai hyn gael ei drafod o flaen llaw gyda'r gofalwr, y person maent yn gofalu amdano, a'r cydgysylltiwr gofal, er mwyn sicrhau bod modd i rannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau tra bod y person sy'n cael ei ofalu amdano yn yr ysbyty.

Mae gofalwyr ifainc yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael gwybod am, neu yn cael dweud eu barn, am benderfyniadau, oherwydd mae arbenigwyr weithiau yn credu ei fod yn well i beidio eu beichio, neu eu bod yn rhy ifanc i gael eu cynnwys. Fodd bynnag, gall hwn wneud i ofalwyr ifainc deimlo'n ynysedig neu eu bod heb unrhyw reolaeth, yn enwedig os ydynt yn arbennig o weithgar yn eu cyfrifoldebau gofalu.

Oherwydd bod gofalu am rywun yn gallu gymryd llawer o amser, bod yn straenus a flinedig, mae'n hollbwysig fod gofalwyr yn sicrhau nad yw eu hiechyd yn dioddef. Dylai gofalwyr gydag afiechyd meddwl difrifol eu hyn gofio i roi'r un safon o flaenoriaeth i eu hiechyd ag ydynt yn rhoi i'r person yr ydynt yn gofalu amdano. Dylai gofalwyr wneud yn siwr eu bod yn derbyn y gofal sy angen arnynt.

Efallai bydd gofalwyr yn ystyried ymuno â grŵp cynorthyol gofalwyr. Fe all grwpiau gofalwyr fod yn llesol oherwydd maent yn gyfle i'r gofalwr i rannu profiadau gyda phobl fydd yn deall eu problemau. Efallai hefyd bydd gofalwyr yn defyddio gwasanaethau seibiant, a fydd yn eu galluog i gael saib wrth wybod bod y person yr ydynt yn gofalu am yn ddiogel.

Cysylltiadau defnyddiol

• Yng ngwanwyn 2009, cyhoeddodd Hafal "Gwerthoedd Newydd - Arferion Newydd", sef adroddiad lle'r oedd defnyddwyr gwasanaethau yn lleisio barn ar yr hyn yr hoffent ei weld yn Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Roedd adroddiad Hafal yn cynnwys pennod â'r teitl "Rhieni a pherthnasau sy'n gofalu" sy'n rhestru enghreifftiau o arferion newydd a awgrymwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau. Er mwyn cael cipolwg ar "Gwerthoedd Newydd - Arferion Newydd", ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/publications.php

• Ym 2004, bu Hafal yn arloesol drwy sefydlu Fforwm Gofalwyr Iechyd Meddwl Cymru Gyfan, yn arbennig i fynd i'r afael ag anghenion gofalwyr y bobl hynny ag afiechyd meddwl. Mae'r Fforwm ar agor hefyd i unigolion a grwpiau na sy'n gysylltiedig â Hafal. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau'r Fforwm, neu i ddod yn rhan ohono, cysylltwch â Threfnydd Fforwm Gofalwyr Iechyd Meddwl Cymru Gyfan, sef Janet Randles: Hafal, Swît C2, Tŷ William Knox, Llandarsi, Castell-nedd SA10 6EL (Ffôn:01792 816 600; E-bost: carersforum@hafal.org.

• Os ydych yn ofalwr i berson ag afiechyd meddwl, bydd Hafal yn eich darparu â'r wybodaeth sydd angen arnoch er mwyn eich galluogi i ddod o hyd i gefnogaeth a chyngor. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau i ofalwyr y mae Hafal yn eich darparu yn eich ardal chi, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/pdf/carers/Carers_Welsh.pdf. Bydd eich cyngor lleol hefyd o bosib yn medru'ch darparu â rhestr o grwpiau gofalwyr sydd yn dod ynghyd yn eich ardal.

• Er mwyn darllen Cynllun Deg Pwynt i Ofalwyr Hafal, a gyhoeddwyd ar-lein ym Mehefin 2009, ewch os gwelwch yn dda i http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/publications.php. Mae'r cynllun hwn wedi ei selio ar yr awgrymiadau a dderbyniwyd oddi wrth 400 o ofalwyr sy'n Aelodau gyda Hafal. Mae wedi ei selio ar brofiad go iawn ac yn amlinellu'r camau positif y gallwch chi eu cymryd fel gofalwr i symud ymlaen a chefnogi'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.

• Mae gwefan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnig cyngor cynhwysfawr ar y camau y gellir eu cymryd pan fo rhiant yn mynd yn sâl. Ewch os gwelwch yn dda i www.mentalhealth.org.uk/

• Mae Barnardo's wedi cyhoeddi pecyn adnoddau a elwir "Keeping the family in mind". Mae'r pecyn ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gyda rhieni sydd â thrafferthion iechyd meddwl, eu plant a'u teuluoedd ac mae wedi ei gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth o'r materion y mae teuluoedd yn eu hwynebu. Er mwyn archebu pecyn, ewch os gwelwch yn dda i: www.barnardos.org.uk/resources/research_and_publications/books_and_tools_health_and_disability.htm#parents

• Mae Plant yng Nghymru yn cefnogi datblygu gwasanaethau a chefnogaeth i ofalwyr ifanc drwy hwyluso'r Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc. Am fwy o wybodaeth ar hyn, ewch os gwelwch yn dda i: www.plantyngnghymru.org.uk/areasofwork/youngcarers/index.html

• Mae gwefan Ymddiriedolaeth y Tywysog Brenhinol i Ofalwyr Ifanc yn cynnig gwybodaeth a chyngor i ofalwyr ifanc yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn fforymau ar-lein. Ewch os gwelwch yn dda i: www.youngcarers.net

• Mae Home Start yn cynnig cyngor sy'n rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac na sy'n feirniadol i deuluoedd â phlant ifanc sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol.
Ewch os gwelwch yn dda i: www.home-start.org.uk

• Mae teuluoedd hefyd yn medru cael mynediad at Wasanaethau Cymorth i Deuluoedd lleol drwy gynllun Cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Cymorth yn cael ei weinyddu drwy Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc lleol sydd o fewn pob un awdurdod lleol. Mae'n anelu i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn gwella cyfleon bywyd plant a phobl ifanc o deuluoedd difreintiedig. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Thîm y Rhaglen Plant a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ Ffôn. 02920 826379 E-bost: cymorth@wales.gso.gov.uk

• Mae'n bosib dod o hyd i fwy o wybodaeth ar Cymorth yma: http://www.dcsf.gov.uk/everychildmatters/earlyyears/surestart/fundedsettings/wales/wales/

 

 

14 May 2012
Mwy na 100 o ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn dringo Pen y Fan!...Read more...

10 May 2012
Roedd yr ymgyrch “Symud I Fyny” wedi cyrraedd Abertawe heddiw! ...Read more...

10 May 2012
Adroddiad AGIC yn argymell fod Byrddau Iechyd yn sefydlu “rhwydwaith clinigol iechyd meddwl i gyn-filwyr”...Read more...

09 May 2012
Llywodraeth Cymru yn Lansio Ymgynghoriad ar y Strategaeth Iechyd Meddwl ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru