image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Yr Ymagwedd Person Gyflawn

HYFFORDDIANT AC ADDYSG

Gallwch ddewis:
- Astudio'n amser lawn neu yn rhan amser
- Cael cefnogaeth arbennig i'ch cynnal mewn hyfforddiant neu addysg
- Defnyddio pecynnau dysgu o bell, e.e. y Brifysgol Agored
- Dilyn cyrsiau addysg ar gyfer oedolion, sy'n berthnasol i waith neu i ddiddordeb
- Dechrau astudio'n annibynnol drwy ddarllen, defnyddio'r rhyngrwyd ac ati

Mae hyfforddiant ac addysg ar gael ar draws amrywiaeth o bynciau, mewn nifer o ffurfiau ac fe all fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol. Dylwch ystyried sawl posibilrwydd: 

  • Astudio mewn cyfleusterau prif ffrwd - colegau addysg bellach (amser llawn, rhan amser neu fodiwlar)
  • Cael cefnogaeth i wneud cwrs.
  • Defnyddio pecynnau dysgu o bell - y Brifysgol Agored ac ati.
  • Hunan-astudio– defnyddio llyfrgelloedd, y rhyngrwyd ac ati.
  • Dysgu yn seiliedig yn y gwaith sy’n eich galluogi i ennill gyflog wrth dysgu
  • Defnyddio Addysg Gymunedol – mewn amgylcheddau di-academaidd

Gallwch gael gafael ar daflenni gwybodaeth ar y pynciau hyn drwy glicio ar yr un sydd o ddiddordeb i chi:
Dewis Cwrs Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr

Hunanastudiaeth
Os byddai’n well gennych chi ddysgu’n gwbl annibynnol ac ar eich cyflymder eich hun, gallwch ddewis astudio ar eich pen eich hun. Fel hyn, byddwch yn astudio’r union beth y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, er na fydd gennych chi gefnogaeth uniongyrchol gan diwtor neu myfyrwyr eraill i rannu syniadau â nhw.

Llyfrau – gallwch gael y rhain ar unrhyw destun y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, a chofiwch gall eich llyfrgell leol eich helpu. Os nad oes ganddyn nhw lyfr rydych chi ei eisiau' efallai y gallent ei archebu i chi.

Tapiau sain a CDau – maent yn boblogaidd ar gyfer dysgu ieithoedd, er y gallwch hefyd eu defnyddio i ddysgu am sgiliau rheoli neu i gwblhau cwrs datblygiad personol.

Cyfrifiadur a’r rhyngrwyd – gallwch ddysgu sgiliau cyfrifiadurol gyda llawlyfr hyfforddi, hyfforddiant ar sgrin neu dros y rhyngrwyd. Gallwch hefyd gael mynediad i amrywiaeth eang o wybodaeth ar unrhyw bwnc sydd o ddiddordeb i chi ar y rhyngrwyd.

Teledu a radio – mae rhai gorsafoedd yn rhedeg rhaglenni addysgol gyda deunydd ategol ar eu gwefan. Gall hyn fod ar unrhyw bwnc o arddio i ieithoedd.

Dysgu yn Seiliedig ar Waith
Fe all hyn gynnwys gwneud tasgau neu gymryd cyfrifoldebau newydd yn ogystal â, neu yn hytrach na, hyfforddiant y mae eich cyflogwr yn fodlon talu amdano. Gall eich cyflogwr gynnal cyrsiau mewnol, neu anfon nifer o bobl o’r un tîm ar gwrs. Ar y llaw arall, efallai hoffech chi ddod o hyd i gwrs sy’n eich siwtio ac yna gofyn i’ch cyflogwr i dalu ffioedd ac i roi'r amser i chi i fedru fynd. 

Os ydych chi eisiau astudio rhywbeth sydd heb lawer, neu sydd â dim, perthnasedd i’ch gwaith presennol, efallai y bydd angen i chi drafod â’ch cyflogwr er mwyn dod o hyd i ffordd y gallwch fynychu heb effeithio ar eich gallu i barhau i weithio.

Mae’r cynllun Dysgu drwy Weithio yn ffordd o astudio cwrs byr neu gymhwyster lefel prifysgol yn eich amser eich hun fel y gallwch barhau i weithio (efallai y bydd eich cyflogwr yn fodlon helpu gyda chost y cwrs). Caiff ei redeg gan LearnDirect ac mae nifer o brifysgolion yn cynnig y cyrsiau hyn gyda dysgu a chefnogaeth ar-lein. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0800 100 900 neu cliciwch yma.

Os ydych chi ar y Fargen Newydd efallai eich bod yn dysgu wrth weithio neu’n gwneud cwrs galwedigaethol amser lawn. Os ydych chi’n 25 mlwydd oed neu'n hŷn, mae’r Fargen Newydd yn dechrau ar ôl 18 mis o hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith. Os ydych chi rhwng 18 a 24 mlwydd oed, bydd yn dechrau ar ôl 6 mis o hawlio.

Rhaglen wirfoddol yw Dysgu yn y Gwaith ar gyfer Oedolion ac nid yw wedi’i gyfeirio at bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn unig. Mae’n cynnwys datblygu cynllun hyfforddi a allai gynnwys hyfforddiant i wneud swydd benodol, profiad gwaith neu weithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ).

Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith lleol am ragor o wybodaeth ar y Fargen Newydd neu Dysgu yn y Gwaith ar gyfer Oedolion.


 

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru