image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Gwaith a galwedigaeth

Gwaith a galwedigaeth

Gallwch ddewis:
- Gweithio amser llawn neu rhan amser mewn cyflogaeth gyffredinol
- Cael cefnogaeth arbenigol i'ch cynnal mewn cyflogaeth gyffredinol
- Defnyddio gwasanaethau arbenigol mewn cyflogaeth wedi'i chynnal
- Defnyddio gwasanaethau therapi galwedigaethol
- Bod yn wirfoddolwr

I bobl gydag afiechyd meddwl difrifol, mae cyflogaeth yn ffordd o gael urddas a pharch ac annibyniaeth ariannol.
Gwelodd Arolwg Llafurlu 2003 bod gan bobl gydag afiechyd meddwl difrifol, er bod llawer ohonynt eisiau gweithio, y gyfradd ddiweithdra uchaf ymysg y prif grwpiau o bobl anabl. Fodd bynnag, mae cefnogaeth ar gael os ydych chi eisiau mynd yn ôl i weithio, ac mae gennych yr hawl i weithio heb ddioddef anffafriaeth.

Yn ogystal â mynd i gyflogaeth gyffredinol yn annibynnol, gallech fynd i weithio gyda chefnogaeth eich ffrindiau a’ch teulu neu eich gweithiwr iechyd meddwl. Gallech hefyd ddod o hyd i waith drwy gynllun cyflogaeth a gefnogir ac sy’n cael ei redeg gan sefydliadau elusennol neu wirfoddol.

Am ragor o wybodaeth am fudd-daliadau wrth weithio, ewch i adran arian y wefan.

Fe all wneud gwaith gwirfoddol helpu lleihau straen ac iselder. Gall hefyd wella eich bywyd cymdeithasol a’ch siawns o gael gwaith cyflogedig.

Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli, darllenwch ein taflen wybodaeth drwy glicio yma.

Cysylltau defnyddiol:

www.jobcentreplus.gov.uk
www.dfes.gov.uk yn cynnwys gwybodaeth gan yr Adran Addysg a Sgiliau
http://www.direct.gov.uk/en/DisabledPeople/Employmentsupport/WorkSchemesAndProgrammes/DG_4001963 yn cynnwys gwybodaeth am gynllun y Fargen Newydd ar gyfer pobl anabl
www.dwp.gov.uk yn cynnwys gwybodaeth am weithio wrth ofalu am eraill ar yr un pryd
Tudalennau gwefan Gyrfa Cymru ar gyfer oedolion gyda gwybodaeth a chyngor gyrfaol:
https://www.careerswales.com/adult/default.asp?conid=adults

03 Feb 2012
Iselder na sydd wedi’i drin ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau...Read more...

27 Jan 2012
Y Gweinidog Iechyd yn datgelu amlinelliad o’r ...Read more...

27 Jan 2012
AS yn rhybuddio am y bygythiad i les meddwl a seicolegol plant a phobl ifanc...Read more...

25 Jan 2012
ChildLine yn profi cynnydd “dramatig” yn y nifer o alwadau sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru