Yr Ymagwedd

MEDDYGINIAETH
Gallwch ddewis: - Cael gwybod am driniaethau meddygol diweddaraf ar gyfer afiechyd meddwl difrifol - Gofyn i'ch meddyg i argymell y meddyginiaeth fwyaf addas i chi fel unigolyn - Cael gwybod am sgîl-effeithiau a gofynion rheoli eich meddygyniaeth a siarad â'ch meddyg neu'ch nyrs amdanynt - Cymryd y maint cywir o feddyginiaeth a fydd fwyaf buddiol i chi, gyda chyngor eich meddyg.
Mae meddyginiaeth yn rhan bwysig o driniaeth i lawer o gleientiaid, ac yn aml nid "mater naill ai / neu" ydyw. Rhaid i feddyginiaeth fod yn effeithiol a pheri cyn lleied o sgîl-effeithiau ag sy'n bosib.
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael triniaeth gyfoes ar gyfer iechyd meddwl. Yn y blynyddoedd ddiwethaf, fe ddaeth nifer o feddyginiaethau newydd ar gael, sy'n achosi llai o sgîl-effeithiau ac sy'n ymdrin yn fwy cadarnhaol â symptomau positif a negyddol na meddyginiaeth hŷn. Yn anffodus, yn aml nid yw'r meddyginiaethau newydd yn cael eu rhagnodi.
Meddyginiaeth
Mae meddyginiaethau ar gael mewn ffurfiau amrywiol (tabledi, chwistrelliadau neu hylifau). Gall y cyffuriau hyn arwain at sgîl-effeithiau y gellir rhagnodi meddyginiaeth ychwanegol ar eu cyfer.
Dylid ystyried arweiniad ar ddefnyddio Cyffuriau Gwrthseicotig (Annodweddiadol) mwy newydd ar gyfer Trin Schizophrenia (Canllaw Arfarnu Technoleg Rhif 43) ochr yn ochr â'r meddyginiaethau traddodiadol presennol fel un o'r dewisiadau cyntaf ar gyfer triniaeth.
Beth mae Canllaw Clinigol yn ei feddwl mewn gwirionedd?
- Argymhellion yw canllawiau clinigol ar y driniaeth a'r gofal priodol i gleifion â salwch a chyflyrau penodol o fewn y GIG yng Nghymru a Lloegr. Maent yn mynd law yn llaw a gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol iechyd profiadol, ond heb fod yn eu disodli.
- Pan fydd canllaw NICE yn cael ei gyhoeddi, disgwylir i weithwyr proffesiynol iechyd ystyried canllaw y Sefydliad yn llawn wrth arfer eu barn glinigol. Fodd bynnag, nid yw arweiniad NICE yn diystyru cyfrifoldeb unigol gweithwyr proffesiynol iechyd i wneud penderfyniadau sy'n briodol i amgylchiadau'r claf unigol, mewn ymgynghoriad â'r claf a/neu ei warchodwr neu ofalwr. Er enghraifft, pe bai alergedd gan glaf unigol i gyffur a argymhellir yn y canllaw, byddai'n briodol i'w gweithiwr proffesiynol ragnodi meddyginiaeth arall.
Canllaw Clinigol NICE ar Schizophrenia
- Mae'n cydnabod y bydd 1:100 yn cael profiad o schizophrenia
- Yn cydnabod, gyda thriniaeth addas, y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella neu'n ymadfer.
Mae'r arweiniad hwn yn argymell:
- Triniaeth cynnar
- Gofal holistaidd mewn ymadfer
- Gweithio mewn partneriaeth - cleient a gwasanaethau
- Gwybodaeth da
- Asesiad lawn
- Dewis o driniaeth / meddyginiaeth a Chyfarwyddebau Ymlaen Llaw
Beth yw'r Arweiniad i Gleientiaid wrth Ddefnyddio Meddyginiaethau Annodweddiadol?
- Dylai eich meddyg drafod gyda chi pa gyffur gwrthseicotig y dylech ei gymryd. Dylai eich meddyg esbonio buddion a sgîl-effeithiau'r cyffuriau, ac os yw'n addas, ymgynghori â'ch eiriolwr neu'ch gofalwr. Dylai penderfyniadau ynghylch pa gyffuriau a ragnodir i chi gael eu gwneud ar y cyd rhyngddoch chi a'ch meddyg, a dylech ddeall pa sgîl-effeithiau y gall y meddyginiaeth arwain atynt.
- Os cafoch eich diagnosio â sgitsoffrenia yn ddiweddar, dylai eich meddyg ystyried rhagnodi un o'r cyffuriau gwrthseicotig geneuol annodweddiadol (mwy newydd) canlynol: amisulpride, olanzapine, quetiapine, risperidone neu zotepine.
- Os ydych yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig traddodiadol (hŷn) sy'n rheoli'ch symptomau sgitsoffrenia, ond sy'n achosi sgîl-effeithiau yr ydych chi a'ch meddyg yn cytuno eu bod yn annerbyniol, yna dylai eich meddyg ystyried rhagnodi cyffuriau gwrthseicotig annodweddiadol geneuol (amisulpride, olanzapine, quetiapine, risperidone, sertindole neu zotepine).
- Nid yw NICE yn argymell eich bod yn newid i un o'r cyffuriau gwrthseicotig annodweddiadol (newydd) os ydych yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig nodweddiadol (hŷn) sy'n rheoli'ch symptomau sgitsoffrenia ac nad ydynt yn achosi sgîl-effeithiau annerbyniol.
- Os oes tystiolaeth bod gennych yr hyn a elwir yn sgitsoffrenia gwrthiannol i driniaeth, neu TRS (lle nad yw'r cyffuriau yr ydych yn eu cymryd yn rheoli'ch symptomau sgitsoffrenia), yna dylai eich meddyg ragnodi clozapine.
- Os yw mwy nag un cyffur gwrthseicotig annodweddiadol yn addas i chi, dylai eich meddyg ragnodi'r cyffur rhataf.
- Os nad oes modd i chi gael trafodaeth lawn â'ch meddyg ynghylch pa gyffur y dylid ei ragnodi, er enghraifft oherwydd eich bod yn ailwaelu neu'n cael pwl ddifrifol o sgitsoffrenia, yna gall eich meddyg ragnodi cyffur gwrthseicotig annodweddiadol oherwydd y risg llai o sgîl-effeithiau. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai eich meddyg drafod eich triniaeth cyffuriau gyda'ch gofalwr neu eiriolwr os yw hynny'n bosibl ac yn addas.
- Argymhellir bod "cyfarwyddebau ymlaen llaw" yn cael eu datblygu a'u cadw yn eich rhaglen gofal. Rhain yw cyfarwyddiadau a ysgrifennir gennych chi a'ch tîm gofal iechyd, sy'n disgrifio yr hyn yr hoffech ddigwydd os nad oes modd i chi fod yn rhan o drafodaeth â'ch meddyg ar adeg pan fydd angen triniaeth arnoch (er enghraifft, yn ystod cyfnod o ailwaelu neu bwl difrifol o sgitsoffrenia).
- Dylai triniaeth â chyffuriau gwrthseicotig fod yn rhan o becyn gofal cyffredinol sy'n delio â'ch anghenion meddygol, emosiynol a chymdeithasol. Dylai eich meddyg a gweithiwr allweddol fonitro'n barhaus eich cynnydd a pha mor effeithiol yw'r cyffuriau yr ydych yn eu cymryd, ac unrhyw sgîl-effeithiau yr ydych yn eu dioddef ohonynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn ddiweddar wedi newid o un cyffur gwrthseicotig i un arall.
- Ni ddylid rhagnodi cyffuriau gwrthseicotig annodweddiadol a nodweddiadol ar yr un pryd, ac eithrio am gyfnodau byr os ydych yn newid cyffuriau.
Sgîl-effeithiau
I rai cleifion, gall y sgîl-effeithiau hyn fod yn fwy ynysol ac annerbyniol yn gymdeithasol na sgitsoffrenia ei hun. Fe all y sgîl-effeithiau cynnwys ysgwyd neu grynu, y cyhyrau'n plycio neu wingiadau a all fod yn barhaol neu a all ddiflannu ar ôl rhoi'r gorau i gymryd y cyffuriau. Gall sgîl-effeithiau eraill gynnwys golwg aneglur, ceg sych, magu pwysau neu ffitiau. I lawer o bobl, mae'r meddyginiaethau traddodiadol yn rheoli symptomau eu sgitsoffrenia heb unrhyw sgîl-effeithiau, ond i bobl eraill, fe all eu sgîl-effeithiau fod mor alaethus, maent yn rhoi'r gorau i gymryd eu meddyginiaeth. Mae hwn yn golygu y gall symptomau eu sgitsoffrenia fynd allan o reolaeth i raddau sy'n galw am sbel yn yr ysbyty.
Sylwadau gan Gleientiaid
- "Dylid gwahardd yr hen gyffuriau. Dylai pawb allu cael y cyffuriau mwy newydd, annodweddiadol, beth bynnag yw eu pris - maent yn achub bywydau." - Ann o Gymru a dreuliodd flynyddoedd mewn ysbyty arbennig nes wnaeth newidiad i gyffur annodweddiadol ei galluogi i adael.
- "Mae'n amlwg bod y cyffuriau newydd yn gweithio. Mae pobl fel fi yn gweithio, mae gennym ni fywyd cymdeithasol, ac yn syml iawn, rydym yn byw ein bywydau. Nid yw hynny'n bosib ar yr hen gyffuriau - rydych yn teimlo fel talp o jeli." - Martin o Gaint, a ddioddefodd sgîl-effeithiau difrifol ar yr hen feddyginiaethau.
- "Mae meddyginiaeth newydd wedi galluogi i mi a fy ngŵr gael ansawdd bywyd llawer gwell. Yn y flwyddyn cyn i mi ddechrau cymryd meddyginiaeth annodweddiadol, ceisiais ladd fy hun 12 gwaith, a bûm yn yr ysbyty chwe gwaith. Ers ddechrau cymryd y meddyginiaeth 18 mis yn ôl, nid wyf wedi bod yn yr ysbyty ac rwy'n medru gweithio'n wirfoddol." - Diana o Southampton.
- "Mae'r feddyginiaeth modern wedi gweithio go iawn i mi. Rwyf wedi bod yn iach nawr am dair mlynedd, ond cyn hynny ces i amser ofnadwy ar yr hen feddyginiaethau, ac roedd gennyf symptomau yn debyg i afiechyd Parkinson's." Joe, 26, o Lundain.
I ddarllen arweiniad Hafal i feddyginiaethau gwrthseicotig annodweddiadol ar gyfer sgitsoffrenia, cliciwch yma.
|