Cyllid ac arian

Cyllid ac arian
Gallwch ddewis: - Ennill cyflog neu dâl - Ceisio am grawnt neu fenthyciad myfyriwr - Uchafu eich nawdd cymdeithasol, budd-dâl anabledd neu fudd-daliadau eraill - Gwella eich sgiliau cyllido - Cael gwybodaeth am reoli dyledion neu gynilion
Yr amrywiaeth o gydrannau y gellir eu hystyried mewn agwedd gyfannol tuag at gyflawni ansawdd bywyd da mewn perthynas ag arian yw:
Cyflog / Tâl Arian a gaiff ei dalu am waith
Grawnt / benthyciad myfyriwr Arian a dderbynnir trwy grawnt neu fenthyciad myfyriwr gan eich Awdurdod Addysg Lleol.
Budd-daliadau Arian a dderbynnir trwy fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gan gynnwys budd-dâl analluogrwydd (BA) lwfans byw i’r anabl (LBA) a chymhorthdal incwm (CI).
Rheoli dyledion / cynilion Mar cymorth ar gael oddiwrth sefydliadau annibynnol a phreifat neu swyddfa leol Cyngor ar Bopeth. Am help wrth ddelio â dyledion yn benodol, ewch i http://www.moneyadvicetrust.org/
Am fwy o wybodaeth am forgeisi, cliciwch yma.
Budd-daliadau Gall cymhlethdodau’r broses budd-daliadau, sy’n cynnwys nifer o asiantaethau gwahanol a llenwi ffurflenni’n fanwl, yn aml fod yn rhwystr i sicrhau bod cymorth a chefnogaeth addas ar gael.
Ond mae budd-daliadau anabledd yn hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da. Gall manteisio ar holl botensial hawl unigolyn i fudd-daliadau helpu i gyflawni hyn. Gallwch gael asesiad budd-daliadau am ddim o’ch canolfan gynghori leol neu gan eich swyddfa hawliau lles. Efallai bod sefydliadau cymunedol annibynnol yn cynnig cyngor yn eich ardal chi hefyd, a gallech geisio chwilio am eu manylion yn y llyfr ffôn neu yn eich llyfrgell leol. Bydd y sefydliadau hyn hefyd yn eich helpu i adolygu ac apelio os byddwch chi’n cael eich gwrthod ar gyfer budd-dâl.
Am ragor o wybodaeth am fudd-daliadau ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, ewch i’r wefan yma a gynhelir gan MIND Castell-Nedd http://www.benefitsinmind.org.uk/
|