image Astra Zeneca Hafal Website Astra Zeneca

Yr Ymagwedd Person Gyflawn

Whole Physical

IECHYD CORFFOROL

Gallwch ddewis:
- Sicrhau eich bod wedi cofrestru â meddyg teulu lleol
- Cymryd gofal o'ch iechyd, talu sylw i'ch ddeiet, ysmygu, ymarfer corff ac yfed
- Osgoi cymryd cyffuriau anghyfreithlon neu stryd
- Mynd i weld y deintydd yn rheolaidd
- Mind i weld yr optegydd
- Mynychu clinigau dynion iach neu merched iach

"Mae iechyd yn fater o les corfforol, meddyliol a chymdeithasol ac yn llawer mwy nag absenoldeb clefyd neu lesgedd."
Sefydliad Iechyd y Byd 1948

Gellir pobl sydd wedi cael cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl ddisgwyl bywyd byrrach o 8.8 mlwyddyn yn gyfartalog na bywyd rhywun sydd heb gael cysylltiad. Felly, mae'n bwysig i barhau i edrych ar ôl eich iechyd corfforol, hyd yn oed pan ddigwyddir problemau iechyd meddwl difrifol.

Mae iechyd corfforol yn aml yn cael ei ddiystyru wrth ofalu am rywun sydd â salwch meddwl. Dylid rhoi sylw arbennig i faterion gofal sylfaenol fel problemau deintyddol ac anadlol. Mae gofal cychwynnol, eilaidd a thrydyddol yn hawl i rywun sy'n dioddef salwch meddwl.

Sut allai wella fy iechyd corfforol?
• Trwy sicrhau eich bod yn derbyn y gofal iechyd rydych â hawl i
• Trwy wneud newidiadau i'ch ddull byw

1. Gofal Iechyd
Meddyg
Deintydd
Optegydd
Archwiliad iechyd
Mwy o wybodaeth
2. Dull o fyw
Ysmygu
Alcohol
Cyffuriau anghyfreithlon
Bwyd
Bod yn weithgar
Pwysau
Haul
Cwsg
3. Afiechydon corfforol ddfrifol

1. Gofal iechyd
Mae gennych hawl i ofal iechyd corfforol, Mae gennych hawl i ofal iechyd corfforol, yn ogystal â'ch gofal iechyd meddwl pan oes gennych afiechyd meddwl ddifrifol. Fe all archwiliadau rheolaidd gan ddeintydd, optegydd neu nyrs yr ymarfer nodi arwyddion cynnar afiechydon ddifrifol corfforol fel diabetes, ag all fod yn beryg penodol os rydych yn cymryd meddyginiaeth gwrth-seicoteg.

Gweithred: cofrestrwch gyda meddyg teulu

Mae gennym ni gyd yr hawl i gofrestri gyda meddyg teulu¸ ac fe fydd angen i chi wneud hwn er mwyn cael mynediad i'r holl wasanaethau sydd ar gael. Yn aml, eich meddyg teulu yw'r person sy'n rhoi cymorth i chi i reoli afiechyd parhaus (corfforol neu meddygol). Oherwydd bod y rhan fwyaf o ragnodau yn dod o'ch meddyg teulu, mae'n bwysig eich bod yn cofrestri er mwyn sicrhau bod dim toriad yn eich meddyginiaeth. Hefyd, gallwch sicrhau eich body n cael y triniaeth mwyaf ddiweddar mewn ffordd sydd yn addas i chi wrth gofyn i'ch meddyg i arolygu'r meddyginiaeth a gofal iechyd arall rydych yn derbyn. Am fwy ar meddyginiaethau, cliciwch yma.

Sut ydw i'n cofrestri gyda meddyg teulu?

• Casglwch ffurflen o dderbynfa'r meddygfa rydych am ymuno â
• Llenwch y ffurflen i mewn - fel arfer, mae angen rhoi eich enw, cyfeiriad, enw eich hen feddyg, yn ogystal â gwybodaeth gwybodaeth ynglŷn â'r problemau iechyd rydych yn cael ar y pryd
• Rhowch y ffurflen i'r meddygfa a threfnwch i gael archwiliad iechyd gyda'r nyrs neu'r meddyg

Sut ydw i'n dod o hyd i'r meddyg agosaf ataf i? (LINK TO NHS SITE)

Os ydych chi'n cael problemau wrth geisio cofrestri gyda meddyg lleol, cysylltwch â'r Bwrdd Iechyd Lleol.

Os nad ydych wedi cofrestri gyda meddyg lleol ond mae angen cyngor meddygol arnoch, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru (LINK) ar 0845 46 47, neu mewn argyfwng ewch i' adran argyfwng eich ysbyty lleol.

Gweithred: gwnewch apwyntiad

Fe all ymweliad i'r meddyg fod yn straenus i bawb, ond fe fydd paratoi am eich apwyntiad yn helpu.

• Fel arfer, fe fydd angen gwneud apwyntiad - darganfyddwch y system yn eich meddygfa
• Mae rhai meddygion yn rhedeg meddygfeydd agored, on mae'n ddoeth i ffonio i wneud yn siwr
• Byddwch ar amser - neu fe allwch gael oediad cyn allwch chi weld y meddyg. Hefyd, mae torri apwyntiadau yn achosi problemau i'r meddyg ac i'r cleifion eraill.

Gweithred: paratowch ar gyfer eich apwyntiad

• Ysgrifennwch i lawr yr hyn rydych chi eisiau trafod gyda'r meddyg cyn i chi fynd
• Os hoffech chi wneud, fedrwch chi mynd â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi am gefnogaeth
• Cymrwch nodiadau tra fyddech yn yr apwyntiad
• Gofynnwch i'r meddyg i esbonio unrhyw eiriau neu termau nad ydych yn eu deal
• Cyn i chi adael, ffeindiwch allan beth fydd yn digwydd nesaf, os unrhryw beth

Gweithred: ewch i weld y deintydd

Yn ogystal â gofalu am eich dannedd, fe all ddeintydd nodi problemau gyda'r ceg a'r tafod, fel cancr, a thrwy hybu gofal dannedd da, fe all y deintydd atal rhai afiechydon y galon. Ewch weld y deintydd o leiaf unwaith ymhob blwyddyn neu ddwy, oddieithr bod eich deintydd yn dweud yn wahanol, neu os ddigwyddir problem.Tra byddech yn chwilio am ddeintydd, fe fydd rhaid i chi ofyn os ydynt yn derbyn cleifion ar y GIG or hoffech gael driniaeth GIG. Fe fyddech chi o hyd yn gorfod talu tuag at eich triniaeth on fe fydd y swm yn is nag yn y sector breifat. Mae'n bosib hefyd y byddech â'r hawl i driniaeth am ddim or ydych yn derbyn budd-daliadau arbennig. Os fydd eich gofrestriad yn pallu, mae'n bosib na fyddech bellach â'r hawl i driniaeth GIG. Mae hwn yn debyg o ddigwydd os nad ydych yn mynd i'r deintydd am fwy na 15 mis, felly mae'n bwysig i fynd pob 12 mis.

Mae rheolau ynglŷn â gwneud apwyntiadau yr un peth â'r reolau ar gyfer meddygon, gweler uchod.

Sut ydwy'n dod o hyd i'r deintydd agosaf ataf i? (LINK)

GWEITHRED: Ewch i weld optegydd neu optometrydd

Fe all optegydd werthu sbectol a lensys cyffwrdd heb cymwysterau on mae optometrydd yn gymwys i brofi golwg ac i archwilio eich llygaid - a wedyn i ragnodi a ffitio sbectol a lensys cyffwrdd, os oes angen. Mae profiad llygaid yn dangos llawer mwy na dim ond os oes angen sbectol ar berson. Wrth edrych ar y llygaid, fe all yr optometrydd nodi arwyddion cynnar gyflyrau fel pwysau gwaed uchel, cholesterol uchel neu diabetes. Fe ddylech chi gael brofiad llygaid pob 2 flynedd, onibai bod ganddwch gyflwr meddygol neu llygaid arbennig.

Sut ydwy'n dod o hyd ir optegydd / optometrydd agosaf? (LINK)

GWEITHRED: Ewch i gael archwiliad iechyd

Mae gennych hawl i archwiliad iechyd pan fyddech yn gofrestri gyda meddyg newydd. Os ydych yn teimlo'n dda ac yn heini, ond hoffech archwiliad iechyd ar ôl i chi gofrestri, gofynnwch y meddygfa.

Mae nifer o feddygfeydd GIG yn awr yn cynnig clinigau person iach (well-person clinics). Fel arfer nyrs y feddygfa sy'n rhedeg y clinigau ac fe fyddent yn cynnwys archwiliadau taldra, pwysau, pwysau gwaed, cholesterol ac archwiliad sampl troeth er mwyn edrych am salwch yr aren neu diabetes. Os rydych chi dros 75, mae gennych chi'r hawl i gael archwiliadau iechyd a meddyginiaeth am ddim pob blwyddyn yn eich meddygfa. Os oes angen archwiliad iechyd arnoch ar gyfer yswiriant neu bwrpas arall, fel arfer fe fydd raid i chi dalu. Gallwch hefyd gael archwiliadau iechyd yng nghlinigau preifat, lle fyd raid i chi dalu.

GWEITHRED: Darganfyddwch mwy

Fe all fferyllyddion roi lawer o wybodaeth a chyngor i chi ynglŷn â materion iechyd cyffredinol. Fe allent ateb cwestiynau ynlgŷn â'ch meddyginiaeth, ac efallai fyddent yn medru rhoi taflenni gwybodaeth ddefnyddiol i chi.

Sut ydwy'n dod o hyd i'r fferyllydd agosaf? (LINK)

Ewch i'r wefannau hyn (Saesneg yn unig) ar gyfer adnoddau am ddim:-

Iechyd rhywiol - am gyngor ar iechyd rhywiol, yn cynnwys dulliau atal genhedlu, galwch y Linell Gymorth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Rhywiol ar 0800 567 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos) neu ymwelwch ag NHS Direct ar gyfer nifer o gyfeiriadau gwefannau gyda mwy o wybodaeth.

www.patients-association.org.uk - Mae'r Cymdeithas Cleifion yn elusen sy'n rhoi cyfle i gleifion i drafod pryderon a rhannu profiadau o ofal iechyd.

Menywod:
www.bbc.co.uk/health/womens_health/ - gwybodaeth a chyngor ar broblemau iechyd cyffredinol sy'n effeithio menywod.

www.nhsdirect.wales.nhs.uk - rhestr o wefannau lle gallech gael mwy o wybodaeth

Dynion:
www.nhsdirect.wales.nhs.uk - rhestr o wefannau lle gallech gael mwy o wybodaeth
www.bbc.co.uk/health/mens_health

Pobl dros 50:
www.bbc.co.uk/health/health_over_50
www.direct.gov.uk/Over50s/HealthAndWellBeing

2. Dull o fyw

Fe all symptomau afiechyd meddwl a sgîl-effeithiau eich meddyginiaeth olygu eich bod yn pallu gofal am eich iechyd corfforol. Ond, mae problemau corfforol yn tueddu i effeithio'ch iechyd meddwl ac mae iechyd corfforol da yn llesaol i bawb. Fe all wneud newidiadau positif i'ch dull o fyw, megis lleihau yfed alcohol neu gwneud mwy o ymarfer corf, hybu eich hunan-barch a gwella eich hwyl. Mae hyn yn gyfle i wneud newidiadau a all ffurfio ran o'ch adferiad.

GWEITHRED: lleihewch neu rhowch y gorau i ysmugu

Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod mwy o bobl ag afiechyd meddwl yn ysmygu, ac yn ysmygu mwy o sigaretau na phobl heb afiechyd meddwl. Cymharwyd 46% o bobl gydag anhwylder deubegynol a 61% o bobl gyda sgitsoffrenia gyda 33% o bobl heb afiechyd meddwl. Mae astudiaethau wedi nodi bod nicotîn yn sylwedd sy'n arbennig o gaethiwus i bobl gydag afiechyd meddwl difrifol.

• Ffeindiwch modd o stopio ysmygu sy'n gweithio i chi, e.e. amnewidiad nicotîn, dosbarthiadau atal ysmygu, cryfder ewyllys neu unrhywbeth arall (gweler y gwefannau isod am fwy o wybodaeth)
• Gosodwch ddyddiad ‘stop' - mae'n syniad i osod y dyddiad hwn sawl wythnos yn y dyfodol, er mwyn i chi gael digon o amser i baratoi. Mae ymchwil wedi dangos bod llwyddiant yn fwy tebygol os rydych chi yn paratoi'n addas.
• Er mwyn rhoi i'ch hunan y cyfle gorau o lwyddo, dewiswch ddiwrnod di-straen i stopio ysmygu

Adnoddau i'ch helpu i stopio ysmygu:

Dim Ysmyug Cymru: mae staff sy wedi'u hyfforddi'n arbennig yn cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth. Hefyd, darparir cynghori am ddim a grwpiau cymorth ar draws Cymru gyfan. Ffoniwch 0800 085 2219 i ddarganfod eich gwasanaeth lleol a sut i ymuno â grŵp cymorth.

Gwasanaeth Atal Ysmygu GIG - fe allech drefnu i gyfarfod â chynghorwr arbenigol, neu ymuno â grŵp o gyd-ysmygwyr sy hefyd yn ceisio atal ysmugu am byth. Mae'r linell gymorth Ysmygu GIG hefyd ar gael am gyngor a chymorth ar 0800 1690 169. Mae'r wefan www.givingupsmoking.co.uk (Saesneg yn unig) yn cynnwys manylion am eu rhaglen cymorth am ddim, ‘Together', ac awgrymiadau oddiwrth pobl sydd wedi llwyddo atal ysmygu.

Mae www.nonsmokingday.org.uk yn cynnwys cyfrifiannell rhyngweithiol i ddarganfod faint o arian fyddech yn arbed, digwyddiadau yn eich ardal chi, cysylltiadau i wefannau eraill a thudalen adnoddau. Mae'r Diwrnod Atal Ysmygu nesaf ar ddydd Mercher, 9fed Mawrth 2011.

GWEITHRED: Rhowch y gorau i, neu dorrwch i lawr ar yfed alcohol

Mae pobl ag afiechydon meddwl difrifol, parhaol yn dair gwaith mwy debygol o fod yn ddibynnol ar alcohol na gweddill y poblogaeth. Mae ymchwil wedi dangos bod menywod gydag anhwylder deubegynol yn saith gwaith fwy debygol or ddioddef gan alcoholiaeth na menywod eraill. Mae dynion gydag anhwylder deubegynol yn dair gwaith fwy debygol or ddioddef gan alcoholiaeth na dynion eraill. Fe all hyd yn oed yfed yn gymedrol gwaethygu symptomau anhwylder deubegynol. Nodwyd astudiaeth ddiweddar fod lefelau gymedrol o yfed alcohol wedi'u cysylltu â mesuriadau pwysig o doster afiechyd deubegynol, yn cynnwys ymweliadau i'r adran argyfwng, nifer o episodau anhwylder a symptomau ar hyn o bryd.

Mae hefyd yn bosib fod alcohol yn rhyngweithio gyda'ch meddyginiaeth i wneud i chi deimlo'n gysglyd.

Mae'r Adran Iechyd yn gynghori'r lefelau yfed uchafol canlynol:-

• Dim mwy na 3 neu 4 uned o alcohol y dydd ar gyfer dynion
• Dim mwy na 2 neu 3 uned o alcohol y dydd ar gyfer menywod

Mae hyn yn wir os rydych yn yfed ar sawl diwrnod yr wythnos, neu dim ond ambell waith. Ni does bellach cyfyngiad wythnosol oherwydd credir bod yfed ‘sbri', h.y. yfed i gyd o'ch unedau wythnosol mewn un diwrnod, yn arbennig o niweidiol i'ch iechyd.

Os rydych yn meddwi, cymerwch saib o leiaf 48 awr cyn yfed alcohol eto, er mwyn roi i'ch corff amser i wella.

Enghreifftiau o un uned o alcohol:

• Hanner peint o gwrw ney lagyr cryfder gyffredin
• Un mesur tafarn o wirod
• Gwydryn bach o wîn

Torri lawr

Os rydych yn meddwl y dylech dorri lawr ar y faint o alcohol rydych yn yfed, mae cadw ‘dyddiadur yfed' yn syniad da. Fe fydd hyn yn dangos i chi faint rydych yn yfed a'r sefyllfeydd ble rydych yn yfed.

Gallwch dorri lawr drwy:

• Fynd allan yn hwyrach yn y nôs
• Brynu cwrw o gryfder is
• Yfed diodydd heb alcohol
• Dorri allan yfed yn ystod amser cinio
• Osgoi ‘rownds'
• Osod eich hunan derfyn (doeth) ar bob achlysiur
• Geisio wneud rhywbeth arall er mwyn ymlacio - mae ymarfer corff yn ddewis da

Ewch i'r gwefannau hyn am fwy o wybodaeth a chyngor:-

www.alcoholconcern.org.uk (Saesneg yn unig) - Gwybodaeth ynglyn ag alcohol a chysyslltiadau i gwefannau gyda chyngor ar dorri lawr, hefyd manylion ar "Down your Drink" - rhaglen ar-lein, 6-wythnos ar gyfer pobl sy'n pryderu am eu yfed.

Mae Drinkline yn linell gymorth cyfrinachol ac am ddim ar gyfer pobl sy angen cymorth gydag yfed eu hun neu yfed rhywun arall. Rhif Drinkline yw 0800 917 8282 ac mae ar agor 24 awr y dydd, pob diwrnod yr wythnos.

www.alcoholics-anonymous.org: (Saesneg yn unig) Cymdeithas ddi-elw ar gyfer pobl gydag alcohol. Mae aelodaeth ar agor i bawb sy eisiau gwneud rhywbeth ynglŷn â'u problemau gydag yfed ac mae'n dilyn y raglen adferiad 12 cam.

GWEITHRED: rhowch y gorau i, neu lleihewch gyffuriau anghyfreithlon

Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu ei fod yn bosid i canabis gwaethygu problemau iechyd meddwl (yn cynnwys sgitsoffrenia) ac, mewn rhai achosau, hyd yn oed yn eu achosi.

Mae hefyd yn bosib fod cyffuriau anghyfreithlon yn rhyngweithio gyda'ch meddyginiaeth: gweler hefyd (LINK to medication page)

Am fwy o wybodaeth ewch i:-

www.talktofrank.com (Saesneg yn unig): gwybodaeth cyfrinachol ac am ddim am gyffuriau. Llinell gymorth 24-awr

www.drugscope.org.uk (Saesneg yn unig):gwybodaeth cynhwysfawr ar cyffuriau. Hefyd yn ymgyrchu.

www.ukna.org (Saesneg yn unig): Mae Narcotics Anonymous yn gymdeithas ddi-elw ar gyfer pobl gyda phroblemau mawr gyda chyffuriau. Mae pobl sy'n adfer o gaethiwed i gyffuriau yn cwrdd yn aml er mwyn helpu'i gilydd i aros yn ‘lân' a'r unig gymwyster i fod yn aelod yw'r eisiau i stopio defnyddio cyffuriau.

GWEITHRED: bwytewch yn fwy iach

Fe all bwyd ddylanwadu ar eich hwyl a chael effaith mawr ar eich iechyd. Fe wnai unrhyw newidiadau rydych yn gwneud gael effaith mawr.

• Fe all fod yn anodd i wneud nifer o newidiadau ar y pryd, felly gwnewch ar gyflymder sy'n addas i chi.
• Cadwch ddyddiadur bwyd er mwyn gweld sut mae'r newidiadau yn gwneud i chi deimlo, a gwnewch gynllun sy'n orau i chi.
• Ewch i'ch feddyg am gyngor cyn dorri allan unrhyw un o'r brif grŵpiau bwyd fel gwenith neu llaeth.

Dyma nifer o newidiadau iachus gallwch wneud i'ch ddeiet:-

• Bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau neu llysiau ffres pob dydd.
• Bwyta 2 dogn o bysgod oeliog pob wythnos, fel eog, mecryll neu sardiniaid.
• Lleihau'r maint o fraster ‘trans' yn eich deiet. Gweler hwn mewn pasteiod a phastri, cacennau a bisgedi wedi'u cynhyrchu mewn ffatri.
• Bwyta mwy o ffa a chodlysiau, e.e. corbys a gwygbys.
• Newid i reis, pasta a bara grawn cyflawn.
• Yfed tua 2 litr (3.5 peint ney 6-8 gwydren) o hylif pob dydd. Mae popeth yn cyfru - dŵr, llaeth, diodydd poeth - popeth AC EITHRIO alcohol.
• Torri lawr ar gaffein.
• Torri lawr ar siwgr.
• Bwyta nifer o fathau gwahanol o fwyd.
• Bwyta bwydydd gyda llawer o starts a ffeibr.

Gweler hefyd (LINK TO Other therapies and treatment)

Mae pobl gydag afiechyd meddwl wedi ffeindio bod y canlynol o gymorth hefyd:

• Bwyta brecwast
• Bwyta'n reolaidd
• Cynllunio prydau
• Cario byrbrydau iachus

Gweler mwy o wybodaeth a chyngor ar y gwefannau isod:-

www.eatwell.gov.uk: gwybodaeth ar ddeiet iachus o'r Asiantaeth Safonau Bwyd (Saesneg a Chymraeg)

www.mentalhealth.org.uk (Saesneg yn unig): gwybodaeth yngŷn â'r cysylltiadau rhwng bwyd a iechyd meddwl.

GWEITHRED: byddwch yn fwy heini

Fe fyddech yn elwa yn syth ar ôl dechrau ymarfer corff yn reolaidd - trwy deimlo llai o bryder neu anhwylder, llai o straen, lefelau is o ysmygu a cham-drîn sylweddau, cysgu'n well, pwysau mwy iachus a mwy o gyfleoedd cymdeithasol - fe fyddech yn cwrdd â mwy o bobl, ac efallai yn datblygu cyfeillgarwch. Gweler hefyd (LINK to social life)

• Anelwch am 30 munud o ymarfer corff, digon i chi golli'ch gwynt tipyn bach, 5 diwrnod yr wythnos. Nid oes raid i chi wneud e i gyd ar unwaith, fe allech chi wneud sawl cyfnod byr yn ystod y dydd.
• Cerddwch ble mae'n bosib.
• Defnyddiwch y grisiau yn hytrach na lifftiau.
• Ymunwch â dosbarth dawnsio, neu clwb gweithgarwch.
• Ymunwch â phobl arall i wneud ymarfer corff. Gallwch chwarae badminton, mynd am dro, mynd i'r gampfa neu mynd i nofio.
• Mae garddio a gwaith tŷ yn ffyrdd o fod yn heini o gwmpas y tŷ yn ffyrdd o fod yn heini o gwmpas y tŷ.

Am fwy o wybodaeth ewch i:-

www.takelifeon.co.uk (Saesneg yn unig): syniadau am ddod yn fwy heini drwy gynnwys ymarfer corff ymhob dydd.

www.bbc.co.uk/health/healthy_living/fitness (Saesneg yn unig): yn cynnwys cynllunydd ymarfer corff a gwybodaeth cyffredinol ynglŷn â ffitrwydd.

www.forestry.gov.uk : i ddarganfod llefydd i gerdded neu feicio.

www.sustrans.org.uk (Saesneg yn unig): i ddarganfod llwybrau beicio trwy gydol y wlad.

GWEITHRED: rheolwch eich pwysau

Mae tua un trydydd o bobl ag anhwylder debegynol neu sgitsoffrenia yn ordew, i'w gymharu â dim ond un pumed o'r poblogaeth cyffredinol. Fe all reoli pwysau fod yn broblem i bob lag afiechyd meddwl difrifol, yn enwedig achos bod rhai feddyginiaeth gwrthseicoteg yn achosi pobl i roi pwysau ymlaen.

Os rydych yn llawer yn rhy drwm, fe all eich meddyg rhoi cyngor ar ddeietau i'ch helpu i golli pwysau, neu eich danfon chi i weld deietegydd.

Am fwy o wybodaeth ewch i:-

www.direct.gov.uk: sut i fesur eich mynegai crynswth corfforol (Body Mass Index), a chyngor ar bwyta'n iachus.

http://www.bbc.co.uk/health/treatments/healthy_living/index.shtml: cyngor ar golli pwysau a chadw'n heini. Hefyd mae'r wefan yn cynnwys rhaglen deiet ac ymarfer corff sy'n para am chwech wythos.

www.bigmatters.co.uk (Saesneg yn unig): am gymorth a ffordd positif o golli pwysau, gan gynnwys fforum gymdeithasol ar-lein, bigmatters.

GWEITHRED: byddwch yn ofalus yn yr haul

Mae ffotosensitifrwydd yn sgîl-effaith rhai meddyginiaeth seicotropic, felly mae'n bwysig i wirio sgîl-effeithiau unrhyw meddyginiaeth yr ydych yn ei gymryd cyn mynd allan yn yr heulwen. Mae sgriniau haul ar gael os ydych yn ffotosensitif, a dylent eu ffactor amddiffyn o'r haul (SPF) fod yn o leiaf 30.

Mae'r cyngor canlynol yn addas i bawb:-

• Gwnewch yn sicr eich bod yn osgoi'r haul rhwng 11.00yb a 3.00yp, oherwydd dyna pryd mae'n fwyaf beryglus.
• Diogelwch eich hun drwy wisgo het, llewys hir a sbectol haul.
• Defnyddiwch sgrîn haul gydag SPF o 30 o leiaf, a rhowch llawer ohono arnoch bob dwy awr.

Er ein bod ni gyd yn angen heulwen er mwyn cynhyrchu Fitamin D (hanfodol er mwyn adeiladu a chynnal esgyrn), mae 15 munud, 2 neu 3 gwaith yr wythnos yn ddigon ar gyfer oedolyn croen-olau. Nid oes angen cael lliw haul i sicrhau eich bod yn cael digon o Fitamin D.

Gweler mwy o gyngor ynglŷn â mynd allan yn yr haul a pheryglion cancr y croen ar y gwefan canlynol, a gynhelir gan Cancer Research UK (Saesneg yn unig):-

 http://www.sunsmart.org.uk/index.htm

GWEITHRED: cysgwch yn well

Mae noson dda o gwsg yn hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o bobl i sicrhau lles meddyliol a chorfforol.

Mae bron pawb gydag afiechyd meddwl yn dioddef o broblemau wrth gysgu, yn cynnwys pobl gydag afiechydon meddwl difrifol. Fe all diffyg cwsg eithafol arwain at gyflwr sy'n debig i seicosis, gyda pharanoia a rhithwelediadau, mewn pobl iach mewn pob agwedd arall. Fe all cwsg sy wedi ei ymyrryd achosi mania (cyffro a gorfywiogrwydd) mewn pobl ag anhwylder deubegynol.

Os ydych yn cael trafferth wrth gysgu, dyma rhai newidiadau allwch wneud er mwyn cael noson dda o gwsg:-

• Gwnewch yn siwr fod eich ystafell gysgu ar y tymheredd gywir; fel arfer mae pobl yn ei gadw yn rhy dwym.
• Sicrhewch fod eich gwely a matres yn addas i'ch anghenion.
• Cadwch yr ystafell wely yn rhydd o anrhefn a difyrion.
• Peidiwch â gwylio teledu neu darllen yn y gwely.
• Os na fedrwch gysgu o fewn hanner awr, codwch a gwnewch rhywbeth diflas nes i chi deimlo'n gysglyd eto.
• Sefydlwch arfer cysgu-dihuno trwy codi a mynd i'r gwely ar yr un amser pob dydd.
• Peidiwch â chymryd cyntun.
• Yfwch llai o gaffîn yn y prynhawn a'r noswaith.
• Peidwch ag yfed alcohol yn yr oriau cyn mynd i'r gwely.
• Gwnewch ymarfer corff yn reolaidd, ond dim yn syth cyn mynd i'r gwely.
• Sefydlwch arfer ymlaciol cyn mynd i'r gwely.

Os rydych chi'n ceisio pob un o'r syniadau uchod, ond yn parhau i gael trafferth i gysgu pob nos, neu os rydych yn parhau i deimlo'n flinedig y diwrnod nesaf, mae'n bosib eich bod gennych afreolaeth cysgu ac fe ddylech chi weld eich meddyg. Medrir drin y rhan fwyaf o afreolaethau cysgu, felly medrwch gael y cwsg mae angen arnoch.

3. Afiechydon corfforol difrifol

Mae deiet gwael a gormod o bwysau yn ffactorau risg mawr mewn afiechydon fel:-

• Diabetes
• Afiechyd y galon
• Afiechyd yr ysgyfaint
• Afreolaethau'r stumog a'r coluddyn
• Cancr

Mae pobl gyda sgitsoffrenia / anhwylder deubegol yn:

• 2.4 gwaith yn fwy debygol o gael diabetes
• 1.6 gwaith yn fwy debygol o gael afiechyd y galon
• 1.8 gwaith yn fwy debygol o gael strôc

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r gwefannau canlynol:-

http://www.diabetes.org.uk/home.htm

British Heart foundation

British Lung Foundation

www.corecharity.org.uk

http://www.cancerresearchuk.org/

www.stroke.org.uk

 

 

19 Aug 2010
Astudiaeth yn datgelu fod cyfraddau dynladdiad a hunanladdiad ymhlith y sawl sy'n dioddef afiechyd meddwl wedi disgyn ...Read more...

05 Aug 2010
Canllaw ar gonfensiwn anabledd y CU ...Read more...

29 Jul 2010
Pryder ynghylch triniaeth electrogynhyrfol yng Nghymru...Read more...

21 Jul 2010
Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal pum digwyddiad ar draws Cymru ar y canllaw Dull Rhaglen Ofal (DRhO) dros dro ...Read more...


image

Ynglyn ad Iechyd Meddwl Cymru | Ble i fynd am gymorth | Ynglŷn â ni | Cysylltu â ni | hafal.org
© Iechyd Meddwl Cymru