Yr Ymagwedd

TRINIAETH A THERAPI ARALL
Gallwch ddewis: - Cael gwybod am yr amrywiaeth o therapiau a thriniaethau anfeddygol sydd ar gael ar gyfer afiechyd meddwl difrifol - Gofyn I'ch meddyg am therapy ymddygiad - CBT - Gofyn I'sh meddyg am seicotherapi/therapiau siarad arall - Cael gwybod am therapiau erail, e.e. therapy celf - Ymunwch â Grŵp hunan help
Dylai'r ystod o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru gynnwys ymyriadau seicolegol yn ogystal â seiciatryddol, a dylent gynnig:
- Yr hawl i gael triniaethau effeithiol i reoli symptomau anablu a gofidus salwch meddwl difrifol.
- Gwasanaethau iechyd meddwl cynhwysfawr ar gael i'r sawl y mae arnynt eu hangen.
- Trefn gyflawn ar gyfer rheoli gofal: asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu gan dîm aml-ddisgyblaethol, ond wedi'i chydlynu gan unigolyn penodol.
- Fframwaith deddfwriaethol priodol, sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr unigolyn gan sicrhau bod gan y cyhoedd hyder mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Dylai'r ffocws fod ar adfer a gwella yn hytrach nag ar gyfyngu unrhyw gyflwr, ac mae triniaethau cyfoes erbyn hyn yn cynnig llawer gwell cyfle i lwyddo yn hynny o beth.
Amlygir hyn yng Ngham Allweddol 23 Safon 6 y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru: : "Rhaid darparu ystod cynhwysfawr o therapïau seicolegol yn seiliedig ar dystiolaeth ymhob rhan o Gymru, ynghyd â'r hawl i gael gwasanaethau mwy arbenigol."
Y dewis /ystod o driniaeth a therapi y gellir eu hystyried mewn dull holistaidd yw:
Seicotherapi (Psychotherapy) Mae seicotherapi yn golygu 'gwella meddyliol'.
- Daw o'r Groeg am y meddwl (psyche)
- a'r Lladin am wella (therapia)
- Ar hyn o bryd mae dros 300 o ffurfiau ar seicotherapi a chwnsela.
- Yn ôl Barker (1999) mae tair prif swyddogaeth i seicotherapi;
- Cefnogaeth ~ i leihau gofid trwy gynnig arweiniad, sicrwydd, hyrwyddo hunan-barch, galluogi amddiffynfeydd ymdopi.
- Ail-addysgu ~ helpu i wneud newidiadau, ymdrechion i ail-addasu, cyrraedd nodau.
- Ail-adeiladu - archwiliad dyfnach o wrthdaro yr anymwybod, datblygu personoliaeth.
- Cynhaliaeth drefnus am amser penodedig i gynorthwyo unigolion sydd ag anawsterau emosiynol a phroblemau a phrosesau seicolegol. Yn eu plith mae therapi dirnadol, therapi grŵp a therapi teulu.
- Ymyriadau Teulu - Os yw person yn byw gyda'i deulu neu mewn cysylltiad agos â'i deulu (gan gynnwys gofalwyr a phartneriaid). Gall gwaith teulu leihau'r siawns o ddioddef gwaeledd meddwl pellach.
- O gymorth arbennig i bobl sydd wedi dioddef gwaeledd meddwl yn y 3 mis diwethaf neu sydd mewn perygl o ddioddef gwaeledd meddwl.
- Yn gymorth hefyd i bobl sydd â symptomau fel lleisiau neu feddyliau rhyfedd sy'n aros ar ôl gwaeledd meddwl.
- Hyd ac Amodau Ymyriadau Teulu - Ni ddylai hyd ymyriad teulu fod yn hwy na 6 mis, gyda mwy na 10 o sesiynau wedi'u trefnu.
- Yn ôl canllawiau NICE, dylid cynnig ymyriad teulu i holl deuluoedd unigolion â schizophrenia sydd wedi ailwaelu yn ddiweddar, sy'n cael eu hystyried 'mewn perygl' o ailwaelu, neu sydd â symptomau parhaus ac sy'n byw gyda'u teulu neu mewn cysylltiad agos â'u teulu.
- Eithriadau N.I.C.E. - Ni chynigir Ymyriadau Teulu i unigolion â schizophrenia:
- Nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn trafodaeth wybodus â'r clinigwr sy'n gyfrifol am y driniaeth ac nad yw'r eiriolwr neu'r gofalwr ar gael.
- Lle mae'r unigolyn yn gwrthod caniatáu trafod ymyriadau teulu gyda'i deulu/theulu.
- Lle mae'r teulu'n gwrthod cymryd rhan.
- Adfer
Pan gaiff ei gynnig mewn ysbyty neu ei gydlynu oddi yno, mae hyn yn aml yn cynnwys therapi galwedigaethol i adennill a dysgu sgiliau cymdeithasol a sgiliau byw newydd.
- Therapïau amgen
Enw arall ar y rhain yw 'therapïau ategol' a gellir eu cynnig law yn llaw â thriniaethau confensiynol yn seiliedig ar feddyginiaeth. Mae therapïau amgen yn cynnwys: therapi celf, therapi cerdd, aromatherapi ac adweitheg.
Bydd yr adran hon yn cael ei datblygu ymhellach gyda rhagor o wybodaeth am bob adran, ond yn y cyfamser gallwn gynnig y cysylltiadau canlynol:
Y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig - deall salwch meddwl; achosion a thriniaethau.
Rethink Mae gan Rethink ragor o wybodaeth am driniaethau a therapi.
"Mae gwefan The Counselling Directory yn cynnig rhwydwaith cefnogi o gwnselwyr a seicotherapyddion y DU gyda gwybodaeth am eu hyfforddiant a'u profiad, meysydd cwnsela, ffioedd a manylion cyswllt. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn hawdd i'w ddefnyddio."
Mae gwybodaeth ychwanegol, defnydd ac ymchwil gyfredol ar therapïau ategol ar gael yn adran 'Gwybodaeth am Iechyd Meddwl' - 'Strategaethau, triniaeth a therapïau' o safle'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn www.mentalhealth.org.uk
Therapïau Cyflenwol
Dros y blynyddoedd diweddar, mae therapïau cyflenwol wedi cynyddu mewn poblogrwydd fel ffordd o drin anhwylderau corfforol neu feddyliol – a chynnal lles. Dangosodd arolwg o 2005, a gomisiynwyd gan y Diagnostic Clinic yn Llundain bod 68 y cant o bobl yn credu yn effeithiolrwydd therapïau cyflenwol. Amcangyfrifir ar hyn o bryd bod 1 ym mhob 5 o Brydeinwyr yn defnyddio gofal iechyd cyflenwol – gan wario £130 miliwn y flwyddyn – a bod 50,000 o ymarferwyr therapïau cyflenwol yn y DU.
Gyda’r cynnydd hwn mewn poblogrwydd cafwyd galwadau i therapi cyflenwol gael mwy o rôl mewn gofal prif ffrwd. Yn 2004, cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, gynnigion i alluogi cynnig meddyginiaethau cyflenwol ar y GIG. Mewn araith y llynedd fe ddadlodd o blaid hyn drwy ddweud: “Rwy’n credu y bydd hyn yn arwain at well iechyd ac yn y pen draw yn lleihau costau i’r GIG drwy annog cleifion i chwarae mwy o ran wrth warchod eu hiechyd eu hunain”.
O ganlyniad i boblogrwydd cynyddol therapïau cyflenwol, a’u defnydd cynyddol yn brif ffrwd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn 2004 y byddai therapïau cyflenwol yn cael eu rheoli’n fanylach. Mis Mawrth diwethaf, fe lansiodd Llywodraeth y Cynulliad y Cynllun Gwobrwyo Triniaeth Cyflenwol ar gyfer Cymru er mwyn cydnabod yr enghreifftiau gorau o ofal iechyd integredig.
- Felly beth yw meddyginiaeth gyflenwol?
Therapïau ‘cyflenwol’ yw yn union hynny: therapïau sy’n cyflenwi neu’n ategu meddyginiaeth Orllewinol gonfensiynol pan y’i defnyddir ar y cyd (er nad yw o reidrwydd yn cynnig dewis amgen i feddyginiaeth gonfensiynol, fel yr awgrymir gan y term ‘meddyginiaeth amgen’). Defnyddir meddyginiaeth gyflenwol gan nifer o bobl i drin ac atal amrywiaeth eang o gyflyrau ac afiechydon, ond cred rhai ei fod hefyd yn chwarae rhan mewn bywyd iach yn gyffredinol ac wrth hyrwyddo iechyd a lles unigolyn.
- Ydi therapi cyflenwol yn gweithio?
Mae hwn yn bwynt dadleuol. Mae llawer o’r dystiolaeth am effeithiolrwydd therapïau cyflenwol yn anecdotaidd, ac mae tystiolaeth wyddonol yn tueddu i fod yn anghyson. Dywed Hafal: “Dim ond triniaethau a therapïau sydd wedi’u cymeradwyo gan ddadansoddiad gwyddonol y byddwn yn eu hargymell. Mae ymchwil gwyddonol i therapi cyflenwol wedi dangos bod rhai therapïau yn gweithio mewn rhai achosion, ond mewn nifer o achosion, nid oes tystiolaeth o gwbl ar gael. Fodd bynnag, mae’n rhaid gadael i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain.”
Awgrym Hafal - Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio therapïau cyflenwol, holwch eich Meddyg Teulu i ofalu nad oes unrhyw sgil effeithiau negyddol.
Wrth drafod ‘meddyginiaethau traddodiadol’, dywed Sefydliad Iechyd y Byd: “Dim ond ar gyfer defnyddiau o aciwbigo, rhai meddyginiaethau perlysieuol ac ar gyfer rhai o’r therapïau corfforol y mae tystiolaeth wyddonol o dreialon clinigol ar hap yn gryf. Mae angen ymchwil pellach i bennu effeithlonrwydd a diogelwch nifer o’r ymarferion a’r planhigion meddyginiaethol eraill.” (Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.who.int/en/)
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn cytuno, gan ddweud: “Mae llawer o’r ymchwil presennol i’r defnydd o therapïau cyflenwol mewn iechyd meddwl i’w gael ar ffurf adroddiadau achos yn unig, heb fawr o dreialon clinigol cynhwysfawr nac adolygiadau ymchwil wedi’u cynnal. Os oes ymchwil ar gael, mae’n aml yn anodd cael ato.”
Fodd bynnag, roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Dywysog Cymru ac a gynhyrchwyd gan yr economydd, Christopher Smallwood, y llynedd, yn awgrymu y gall cyflyrau fel pwysau meddwl elwa o therapïau cyflenwol (awgrymwyd y gallai meddyginiaeth perlysieuol yn arbennig fod yn fuddiol wrth drin iselder).
Awgrym Hafal - Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn defnyddio ymarferwyr sydd â’r cymwysterau priodol. Ar gael gafael ar ymarferwyr â’r cymwysterau priodol, ewch i wefan y Ffederasiwn Therapïau Cyfannol (www.fht.org.uk*) neu wefan Cymdeithas Meddyginiaeth Gyflenwol Prydain (www.bcma.co.uk*)
- Felly beth yw’r prif therapïau sydd ar gael? Edrychwn ar rai enghreifftiau poblogaidd...
|
Enw'r Therapi
|
Beth mae'n ei olygu
|
|
Aciwbigo
|
Math o feddyginiaeth Tsieineaidd draddodiadol a ddefnyddir i reoli salwch a chynnal iechyd, mae aciwbigo'n golygu gosod nodwyddau main yn y corff i annog ymateb iachaol.
|
|
Techneg Alexander
|
Therapi symudiad sy'n cynnwys cefnogaeth ymarferol wrth i athro eich cynorthwyo i roi'r gorau i arferion symud gwael.
|
|
Aromatherapi
|
Ychwanegir olewau naws botanegol i fath neu eu tylino i'r croen, eu hanadlu i mewn yn uniongyrchol neu eu tryledu (cymysgu) i arogleuo ystafell gyfan ar gyfer effaith therapiwtig.
|
|
Meddyginiaeth perlysieuol
|
Defnyddir echdyniadau (extracts) meddyginiaethol o berlysiau i drin nifer o gwynion neu i hyrwyddo lles. Gellir defnyddio'r rhain mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys tabledi ac eli.
|
|
Homeopathi
|
I drin anhwylder, gweinyddir dosau bychan o fwynau fyddai'n cynhyrchu'r un symptomau mewn person iach.
|
|
Hypnotherapi
|
Cymell cyflwr hypnotig ac ymlaciol a chael at y meddwl isymwybodol fel y gellir adalw atgofion yn haws ac y gellir derbyn awgrymiadau iachaol.
|
|
Tylino'r corff
|
Perfformio symudiadau llaw ar groen y corff, gan gynnwys rhwbio a rhoi pwysau, er mwyn trin amrywiaeth o anhwylderau neu i hyrwyddo teimlad o les.
|
|
Therapi maethol
|
Defnyddio diet i drin anhwylderau ac atal salwch drwy gywiro unrhyw ddiffygion neu anghydbwysedd fitaminau, mwynau a maetholion eraill.
|
|
Adweitheg
|
System arbenigol o dylino traed sy'n gweld yr holl gorff wedi'i fapio ar wadn y droed: caiff y pwyntiau cyfatebol ar y droed eu tylino i drin anhwylderau drwy'r corff cyfan.
|
|
Reiki
|
System Siapaneaidd o sianelu egni iachaol i mewn i'r cleient. Bydd ymarferwr yn gosod ei ddwylo dros y cleient (ond nid o reidrwydd yn eu cyffwrdd).
|
|
Shiatsu
|
Dull Siapaneaidd o dylino sy'n rhoi pwysau ar bwyntiau penodol o'r corff i adfer cydbwysedd egni'r corff.
|
|
T'ai chi
|
Crefft ymladd Tsieineaidd sy'n seiliedig ar lif esmwyth o symudiadau corfforol sy'n annog cyflwr ymlaciol a chydbwysedd.
|
|
Yoga
|
Yn tarddu o India, ymarfer ysbrydol yw yoga sy'n cynnwys ymarferion ac ymddaliadau corfforol, technegau anadlu a myfyrdod.
|
*Sylwer nad yw Hafal yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
|