‘Argyfwng’ y sâl eu meddwl ifanc yng Nghymru – adroddiad y Comisiynydd Plant

‘Argyfwng’ y sâl eu meddwl ifanc yng Nghymru – adroddiad y Comisiynydd Plant
Yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd Plant Cymru, mae gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn dal i fod mewn cyflwr ‘argyfyngus’, a hynny chwe blynedd ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad lansio ei strategaeth i wella safonau.

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad bod diffyg buddsoddiad mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi atal unrhyw welliannau gwirioneddol yn y gwasanaethau a gynigir i rai o’r bobl ifanc fwyaf bregus yng Nghymru.

Dywed yr adroddiad, a ysgrifennwyd gan Maria Battle, y Comisiynydd Plant gweithredol: “Cafodd y strategaeth CAMHS yng Nghymru ei chyhoeddi yn 2001 dan y teitl ‘Busnes Pawb’, a chafodd ei chroesawu fel strategaeth gynhwysfawr fyddai, o gael yr adnoddau priodol, yn gwneud Cymru yn arweinydd yn y maes.

“Amcangyfrifodd y grŵp gweithredu CAMHS, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y byddai angen £10 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer y tair blynedd gyntaf o gyflwyno gwasanaethau dan y strategaeth ‘Busnes Pawb’.

“Gwnaeth y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Jane Hutt, ymrwymiad ariannol, ond er hynny, mae darpariaeth CAMHS mewn argyfwng yng Nghymru, yn bennaf oherwydd diffyg buddsoddiad.”

Mae’r adroddiad – dan y teitl ‘Busnes Rhywun Arall?’ – yn seiliedig ar ymarfer cwmpasu a gynhaliwyd ymysg Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ar draws Cymru ym mis Ionawr a Chwefror eleni.

Mae canfyddiadau eraill a amlygwyd gan yr ymarfer yn cynnwys:

• Oedi annerbyniol wrth wneud penderfyniadau am driniaeth a lleoliadau ar gyfer plant gyda salwch meddwl, sydd o ganlyniad yn dioddef dirywiad yn eu hiechyd wrth aros i benderfyniadau gael eu gwneud.
• Dim parhad o ran nawdd, sy’n arwain at golli hyder yn y CAMHS
• Eithrio plant rhwng 16 a18 oed sydd ddim mewn addysg llawn amser o’r CAMHS.
• Plant a phobl ifanc mewn rhai ardaloedd ddim yn cael eu hasesu gan CAMHS cyn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn dilyn digwyddiad o hunan-niweidio, er bod gan bob plentyn yr hawl i’r asesiad hwn.

Dywed yr adroddiad y dylai Llywodraeth y Cynulliad roi diwedd ar yr arfer o ariannu gwasanaethau CAMHS pwysig gyda nawdd tymor byr nad yw’n cael ei adnewyddu.

“Mae’n rhaid cael rhyw fath o sefydlogrwydd wrth ariannu CAMHS yng Nghymru fel yn achos y gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion,” medd yr adroddiad.

“Ymddengys mai adnoddau, a’u prinder, sy’n gyrru darpariaeth CAMHS, yn hytrach nag anghenion plant a phobl ifanc unigol. Mae’r gweithdrefnau diogelu niferus, a’r penderfyniadau mympwyol, i’w gweld yn gosod iechyd y bobl ifanc mewn perygl.

Mae plant yn aml yn treulio wythnosau lawer yn y ward paediatreg pan fydd eu hanghenion meddygol corfforol wedi cael eu datrys cyn i wely CAMHS priodol fod ar gael iddynt.

“Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu trin mewn wardiau iechyd meddwl oedolion, nad ydynt wedi eu cymhwyso i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y grŵp oedran yma, a ble gall y profiad fod yn un brawychus a difrodus i’r bobl ifanc.”

Roedd y Comisiynydd Plant hefyd yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn adolygu ei bolisi comisiynu er mwyn rhoi diwedd ar y dryswch rhwng sefydliadau partner am eu cyfrifoldebau, ac i roi pŵer i blant drwy ystyried eu barn.

Mewn ymateb i ‘Busnes Rhywun Arall’, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: “Rydym yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy, ond mae Llywodraeth y Cynulliad yn chwarae ei ran yn llawn wrth wella gwasanaethau ar gyfer plant Cymru.

“Mae adolygiad o ddarpariaeth CAMHS yn cael ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru.”

Dywedodd Alun Thomas, Dirprwy Brif Weithredwr Hafal – y brif elusen yng Nghymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr: “Rydym yn cydnabod y pryderon hyn, ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Llywodraeth y Cynulliad i weithredu ar amrediad eang o strategaethau iechyd meddwl sydd eisoes yn eu lle yng Nghymru.

“Mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn wasanaeth Sinderela i raddau, gyda CAMHS i’w weld fel pe na bai’n gwneud llawer gwell, os yn well o gwbl, na’r gwasanaethau i oedolion.

“Mae’r Gweinidog wedi nodi iechyd meddwl fel un o’i blaenoriaethau, ond rydym ni’n credu y bydd cleifion yn parhau i gael bargen wael nes y bydd y penderfyniadau comisiynu ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau arbenigol – fel gwasanaethau cleifion mewnol glasoed a gwasanaethau ar gyfer plant gydag anhwylderau bwyta – yn cael eu gwneud yn ganolog gan y Cynulliad.

“Un o’r anawsterau mwyaf ar gyfer y grŵp oedran yma yw’r diffyg eglurder ynghylch ble y dylai’r gwasanaethau gael eu lleoli – mewn gwasanaethau pobl ifanc neu oedolion.

“Yn anffodus, y bobl ifanc sy’n dioddef pan na fydd gwasanaethau oedolion yn derbyn cyfeiriadau 16 a 17 oed, ond nid yw gwasanaethau plant yn gallu cynnig cefnogaeth i rai 16 ac 17 oed sydd wedi gadael addysg.

“Mae’n rhaid i wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc adlewyrchu eu hanghenion a bod yn briodol, yn ddiogel ac yn therapiwtig.

“Bu Hafal yn datblygu gwasanaeth ym Mhowys yn ddiweddar, ar y cyd â’n sefydliad partner, Rekindle, ac yn cael ei ariannu gan Comic Relief, ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, ac mae ein profiad wedi dangos i ni fod angen gwneud llawer mwy ar draws Cymru gyfan, er bod nifer fawr o enghreifftiau da o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn lleol.”

• I ddarllen adroddiad y Comisiynydd Plant, ‘Busnes Rhywun Arall?’ cliciwch yma.