Cyfnodolyn Iechyd Meddwl Cymru wedi’i gyhoeddi

Mae rhifyn newydd Cyfnodolyn Iechyd Meddwl Cymru nawr ar gael. Mae cyfnodolyn y tymor hwn yn cynnwys erthyglau ar amryw o achosion iechyd meddwl pwysig gan gynnwys:

• Dadansoddiad o Adroddiad Bradley ac Adolygiad annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Wasanaethau Iechyd Meddwl Diogel.

• Canllaw clir i lwybr cymhleth Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) Gofalwyr y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas a GDC Iechyd Meddwl yr AC Ceidwadol Jonathan Morgan.

• Cyfweliad a rhagolwg i mewn i ddiwrnod ym mywyd gwaith y Gweithiwr Allymestyn Gwledig Camau Bychain (Small Steps) Anna Ripley sydd yn gyfrifol am un o’r meysydd mwyaf o bryder yn y sector iechyd meddwl sef darpariaeth i bobl rhwng 16 a 25 mlwydd oed.

• Llinell amser yn edrych ar ddeddfwriaeth sydd yn garreg filltir a chyhoeddiadau’n ymwneud ag iechyd meddwl yn y deng mlynedd ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod yn weithredol.

Er mwyn lawrlwytho’r cyfnodolyn, ewch os gwelwch yn dda i: http://home-5011705817.webspace-host.com/wordpress/mhwcymraeg/journal.php